BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clecs y Cwm
Eglwys Sant TomosCadw Gwyl yng Nghastell-nedd
Rhagfyr 2003
Y Plygain cyntaf ers 200 mlynedd.
Cynhelir gwasanaeth Cymun Bendigaid yn y Gymraeg fore Sul cyntaf pob mis yn Eglwys Sant Tomos, Castell-nedd. Da gellir dweud bod y gynulleidfa, sy'n cynnwys Dysgwyr yn ogystal â Chymry Cymraeg, wedi tyfu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae'r aelodau wrthi ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer y Plygain ac yn dewis carolau a darlleniadau addas. Dyma'r Plygain cyntaf i'w chynnal yn yr eglwys hon ers 1812.

Diddorol yw nodi'r rheswm dros atal yr oedfa arbennig dros i 200 mlynedd yn ôl, a hynny oherwydd ymddygiad afreolus y gynulleidfa.

Mynegwyd ar y pryd y gobaith o adfer y gwasanaeth, ond ni ddigwyddodd hynny tan nawr. Mae Rhys Phillips yn ei gampwaith History of the Vale of Neath yn holi yr un cwestiwn.

"Pam na chafodd yr hen wyl ei hadfer?"
Daw'r gair "Plygain" o'r Lladin pulli cantio, a'i ystyr yw "caniad y ceiliog". Defnyddiwyd y gair "Pylgan" yn nhafodiaith Cwm Nedd. Fel adfer cynhelir yr oedfa rhwng tri a chwech o'r gloch ar fore dydd Nadolig.

Addurnid yr eglwys â chanhwyllau, a chredid fod arwyddocâd symbolaidd i'w goleuni. Canwyd hen garolau ar yr hen fesurau ynghyd â darlleniadau o'r Beibl. Roedd naws arbennig i'r gwasanaeth ac wedi toriad y wawr a'r gynulleidfa allan i olau dydd bore Nadolig.

Y bwriad yn awr yw cadw'r hen draddodiad yn fyw ac am y tro cyntaf ers 1812 fe gynhelir Plygain yn Eglwys Sant Tomos ar Ionawr 4 am 7.15 o'r gloch y bore. Bydd croeso cynnes i unigolion neu bartïon ymuno â ni yno.

Anna Phillips


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy