| Daeth dros 150 o athrawon a chyn athrawon, cyn ddisgyblion, rhieni presennol a chyn rieni a chyfeillion yr iaith ynghyd i ddathlu sefydlu'r ysgol Gymraeg ym 1955. Ers y dyddiau arloesol cynnar bu'r ysgol yn rhan annatod o fywyd y cylch, ac er mai Seisnig, bu'r dref erioed ers dyddiau y Normaniaid mae'r ysgol wedi cynnig llygedyn o obaith i'r iaith Gymraeg. Mae'r ysgol wedi llwyddo oherwydd ymroddiad - ymroddiad rhieni, plant ac athrawon a hynny dros gyfnod o hanner canrif. Serch y gwrthwynebiadau o du'r gwleidyddion a'r awdurdodau yn y 1950au cryfhaodd a thyfodd yr ysgol o'r dosbarth cyntaf o 15 yn Festri Bethania i'r 350 presennol ar safle'r Gnoll. Mae cymaint o ddyled arnom i'r arloeswyr cynnar am eu gweledigaeth a'u hystyfnigrwydd i fynnu addysg, Gymraeg. Cymaint yw'n dyled hefyd i'r cenedlaethau a ddilynodd ac a welodd bwysigrwydd trosglwyddo 'calon cenedl' i'w plant; ac i'r athrawon hollol ymroddedig, a fu, ac sydd yn yr ysgol yn addysgu'n Cymry ifanc. Bu'r noson yn gyfle i gyn ddisgyblion gwrdd â'i gilydd unwaith eto, rhai ohonynt heb gwrdd ers dros 30 mlynedd. Dychmygwch y newid! Paratodd Dr Alun Harris, cyn ddisgybl a meddyg lleol gyfres o hen luniau'r disgyblion a dangoswyd y rhain ar fur y gwesty. Bu tipyn o dynnu coes wrth hel atgofion.
Daeth nifer helaeth o gyn rieni, athrawon a holl athrawon presennol yr ysgol i gefnogi. Yno hefyd roedd degau o rieni presennol, a phawb yn mwynhau y dathlu. Siaradodd bump - Rhiannon Lloyd, un o'r disgyblion cyntaf a phennaeth Ysgol Gyfun Glantaf, Caerdydd; Siân Lloyd, disgybl o'r 1960au ac a wnaeth enw ym myd y cyfryngau; Dr Alun Harris, disgybl o'r 1960au, meddyg lleol, llywodraethwr yr ysgol a gweithiwr dros yr iaith yn lleol; Mair Waldo Thomas, un o'r rhieni cynnar a gwraig y Cadeirydd cyntaf, Owen G. Thomas ac yn olaf, Mrs Pat Jones, prifathrawes bresennol yr ysgol. Siaradodd pawb yn huawdl a phob un yn canu clodydd yr ysgol. Un peth sy'n sicr - mae dyfodol i'r Ysgol Gymraeg!
 |