Wrth sgwrsio ag ef yn ddiweddar llifodd yr atgofion yn ôl. "Rwy'n cofio fy mod tua 9 mlwydd oed pan y'm hanogwyd gan nhad i ddysgu stepio. Aeth â mi at Phil Guy, athro adnabyddus yng Nglandŵr, lle meistrolais dair math o ddawns: yr esgid ysgafn (shoe soft), clog Swydd Efrog (Yorkshire Clog) a'r waltz.
Roedd gan fy nhad ddiddordeb mawr yn y byd adloniant a phan ymunodd â'r fyddin adeg y Rhyfel Byd Cyntaf dysgodd lawer gan ei gyd filwyr yn y West Riding Yorkshire Regiment. Yn y 20au chwaraeai'r ffidil yng Ngherddorfa Bwrdeistref Castell-nedd. Roedd yn awyddus i mi ddilyn ôl ei droed, er nad oeddwn mor frwd a cherddorol ag yntau.
Y 30au oedd oes aur y Cyngherddau Adloniant (Variety Concerts) - nid oedd teledu ac roedd y radio yn newydd i bawb. Roedd y cyngherddau 'ma yn boblogaidd iawn ac artistiaid lleol yn perfformio i neuaddau gorlawn. Un artist a oedd yn denu llawer o sylw oedd Joe Richards, comedïwr doniol iawn ac ef fyddai'n trefnu'r cyngherddau yma a oedd yn cynnwys bandiau acordion, mandolin, corau, trwpiau dawnsio, comedïwyr a chantorion.
Wedi i mi gael digon o ymarfer cefais 'enw llwyfan' gan fy nhad, sef Young Paul Stratton ar ôl yr enwog Paul Stratton, dawnsiwr a chanwr rhyngwladol ond roeddwn yn nerfus iawn cyn cychwyn, braidd yn gallu cerdded i'r llwyfan. Wedi i mi ddawnsio ychydig deuthum yn hyderus ac erbyn diwedd y 'routine' roeddwn wrth fy modd.
Daeth diwedd i'r math yma o adloniant yn anffodus ac mae'r oes o dderbyn adloniant o'r teledu wedi creu cymdeithas mewnblyg."
Un o 'Mount Pleasant', Castell-nedd yw Jack. Mynychodd Ysgol Alderman Davies yn blentyn ac Eglwys Dewi Sant. Ymunodd â'r Gwaith Olew yn Llandarcy yn ddyn ifanc a threuliodd bedair blynedd yn yr Awyrlu. Symudodd i Fryncoch i fyw ac wedi ymddeol teimlai gwacter yn ei fywyd ysbrydol.
Un dydd Sul mentrodd i sedd ôl Saron, capel yr Annibynwyr a derbyniodd groeso twymgalon yr aelodau, yn arbennig David Rees, un o'r diaconiaid. Mae'n datgan gyda balchder iddo symud o'r sedd ôl i'r Set Fawr ar ôl rai blynyddoedd ac ef erbyn hyn yw Ysgrifennydd y Pulpud, yn dilyn marwolaeth David Williams.
Mae Jack Davies yn cofio'r dyddiau cynnar gyda hiraeth, ond yn 79 mlwydd oed ni ddaw cyfle bellach i ddawnsio ar lwyfan!
Diolch yn fawr i Mr Davies am rannu ei atgofion gyda phapur Clecs y Cwm.