BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clecs y Cwm
Model o'r llong Elizabeth AnneDewch i dwrio
Hydref 2002
Bydd y rhaglen boblogaidd Twrio yn dychwelyd i'n sgrîn deledu cyn bo hir. Disgwylir i gwmni Pedol, sy'n gyfrifol am gynhyrchu'r rhaglen, ymweld ag Orendy Margam ar Dachwedd 30ain.
Yma bydd ein fersiwn Gymraeg o'r Antiques Road Show yn cael ei ddarlledu'n fyw.

Bydd cyflwynwyr y rhaglen sef Nia Roberts, Nia Elin a Jim Lloyd yn chwilota a thwrio am henebion a chasglwyr hen bethau'r ardal.

Hefyd bydd eitemau diddorol yn cael eu gwerthu yn ystod y rhaglen.

Dyma ddisgrifiad o ddau ohonyn nhw:

Stondin Olchi Bren Fictorianaidd gyda theils lliwgar gwreiddiol a bwrdd o farmor. Mae'n cynnwys drôr, cwpwrdd a dwy reilen i ddal tywelion. Amcan bris: £225.

Model o'r llong Elizabeth Anne mewn cas gwydr. Fe adeiladwyd y llong wreiddiol ym 1856 yn Sunderland er mwyn hwylio yn yr India a Ceylon. Yna, yn ddiweddarach roedd yn cael ei defnyddio fel llong fasnach ar gyfer y diwydiant copr yn Abertawe. Amcan bris: £250.


Stondin Olchi Bren Fictorianaidd
Stondin Olchi Bren Fictorianaidd
Yr arwerthwr Prys Jones fydd yn llywio'r arwerthiant ac yn derbyn cynigion o'r llawr neu dros y ffôn. Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu yn fyw.

Hefyd bydd yr Orendy ar agor yn ystod y prynhawn, rhwng 2 - 6 ar gyfer sesiwn brisio a bydd arbenigwyr hen bethau yno yn barod i roi gwerth ar eich eiddo.

Os oes teclyn gennych yn y ty a neb yn gwybod beth yw ei ddefnydd ewch ag ef yno ac am £2 fe gewch ddarganfod ei ddiben a'i werth.

Yna bydd arwerthiant bach o hen greiriau neu eitemau casgledig yn cael ei gynnal rhwng 6 a 7 o'r gloch.

Bydd holl elw yr arwerthiant yn mynd at Eisteddfod yr Urdd Tawe.








0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy