Pan oeddwn yn fy arddegau, fe glywais sôn am ddyn a oedd yn byw yng Nghwm Tawe a oedd â pheiriant a allai wneud i geir a oedd yn symud aros yn yr unfan. Y gred oedd ei bod hi'n beryglus mynd o fewn milltir neu ddwy i'w gartref mewn car gan fod ganddo'r gallu rhyfeddol hwn. Nid oedd neb arall yn deall sut y gallai weithredu yn y fath fodd, ond roedd rhai ag ofn mentro yn rhy agos ato. Gan fod y peth yn swnio fel petai wedi dod allan o un o ffilmiau mwyaf di-sail Hollywood, mae'n rhaid fy mod wedi penderfynu diystyru'r holl glecs hyn.Flynyddoedd wedi hynny, fe ddeuthum i wybod fod y fath ddyn yn bod, a'i fod wedi byw yn rhywle ar Fynydd y Gwair, yn ardal Craigcefnparc. Sais oedd Henry Grindell Matthews (1880-1941) - ac nid yw'n syndod fod cymaint o straeon rhyfedd wedi eu crynhoi o'i gwmpas. Roedd yn ddyfeisydd (inventor) wrth ei alwedigaeth, ac fe gafodd cryn dipyn o lwyddiant cyn iddo ddod i amlygrwydd am y rhesymau a nodir yma.
Ymhell cyn iddo gyrraedd Cwm Tawe, roedd wedi ennill rhyw gymaint o enwogrwydd yn y meysydd y bu'n gweithio ynddynt. Cafodd ei eni mewn pentref bach yn Swydd Gaerloyw. Ni honnai fod ganddo unrhyw alluoedd mawr fel plentyn ar wahân i'w ddawn gerddorol. Cyn hir, daeth yn amlwg fod ganddo ddiddordeb mewn pynciau a oedd yn ymwneud â thrydan, ac fe barhaodd ei ddiddordeb ym myd radio a ffordd newydd o gysylltu pobl â'i gilydd, trwy ddefnyddio ffôn neu radio, am weddill ei oes.
Creu ffôn ddi-wifr
Cafodd rhyw gymaint o lwyddiant wrth greu teleffôn ddi-wifr a oedd wedi ei gysylltu â set radio, gan lwyddo i siarad â rhywun a oedd yn hedfan mewn awyren ar y pryd. Yn 1912, danfonodd neges o Gasnewydd i swyddfeydd y Western Mail yng Nghaerdydd. Ymhlith ei gampau eraill, bu'n arbrofi â dyfeisio ffordd o ychwanegu sain at yr hen ffilmiau mud' (silent movies). Ar y pryd, yr oedd llawer yn credu na fyddai cael ffilmiau o'r fath yn boblogaidd, ac ni lwyddodd ef i argyhoeddi'r sawl a oedd yn gweithio yn y diwydiant ffilmiau yn Lloegr y gallai hyn fod yn gam pwysig ymlaen yn hanes byd adloniant.
Yn y degawd canlynol, fe lwyddodd i ennyn diddordeb y llywodraeth mewn dyfais o'i eiddo a allai - yn ei ôl ef - wedi diddymu llongau. Ni ddaeth dim o hynny yn y pen draw, ond mae'n bur debyg nad arno ef ei hun oedd y bai am hynny. Aeth ymlaen â'i waith, gan honni ei fod ar y ffordd i greu dyfais a fyddai wedi gallu diffodd peiriant awyren. Dangosodd fod rhyw gymaint o sail i'r hyn a gredai, ond nid oedd gan yr awdurdodau fawr o ddiddordeb yn y peth.
Gweithio i Warner yn Hollywood
Bu'n gweithio i gwmni ffilmiau enwog y brodyr Warner yn Hollywood am ddwy flynedd, gan eu cynghori ar sut i ddefnyddio lleisiau actorion yn eu ffilmiau. Er hynny, ni fu ef yn gyfrifol am y datblygiadau mawr a ddigwyddodd yn y maes hwnnw wedi hynny. Aeth ymlaen i ennill rhywfaint o enwogrwydd wrth iddo honni ei fod yn gallu taflu lluniau fel y bod modd iddynt ymddangos yn yr awyr. At hynny, dyfeisiodd ffordd o chwarae organ trwy daflu pelydryn o olau at yr offeryn.
Yn y cyfnod cyn yr ail ryfel byd, fe ddaeth yn ymwybodol o'r peryglon a allai fod ar y gorwel. Credai fod ganddo ef ffordd o rwystro ymosodiadau o wledydd eraill. Felly, yn y flwyddyn 1934, fe ddaeth i Fynydd y Gwair mewn awyren, ac mae'n debyg ei fod yn chwilio am le tawel ac unig lle y gallai fwrw ymlaen â'i waith ymchwil. Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe enillodd yr enw dyn y pelydr marwol (the death ray man) - enw y byddai wedi bod yn well ganddo fod hebddo. Ond nid oedd gan fawr neb yng ngwledydd Prydain ddiddordeb yn yr hyn yr oedd yn ceisio ei wneud.
Er bod y straeon lleol amdano yn awgrymu fod gwaith arloesol yn digwydd ar ben Mynydd y Gwair, gan fod y peth yn ymylu ar fod yn anghredadwy, roedd hi'n anodd cael perswâd ar bobl eraill fod ganddo syniadau o werth.
Americaniaid yn gweld ei werth
O'r diwedd, fe ddangosodd yr Americaniaid ddiddordeb yn ei waith, ac yr oedd wedi bwriadu symud yno. Ym 1941 cafodd sawl pwl o ddolur y galon, a chyn iddo farw, dinistriodd ei holl nodiadau a deunydd ysgrifenedig.
Ymddengys ei fod yn ddyn galluog iawn, ond na chafodd fawr o lwyddiant wrth geisio dwyn ei waith i ben. Byddai'n ddiddorol cael gwybod beth oedd barn ei gydweithwyr yn Hollywood amdano. Efallai taw'r peth rhyfeddaf oll amdano yw na ddaeth dim byd o'i waith tra oedd ef yno, gan ei bod hi'n rhaid fod ganddo adnoddau rhagorol wrth law ar yr amser hwnnw. Ar brydiau, mae' n ymddangos ei fod wedi gallu codi digon o arian i'w alluogi i fwrw ymlaen â'i waith, er bod hynny yn aml yn fusnes digon costus, gan ei fod yn defnyddio pob math o drugareddau a chyfarpar.
Gan fod rhai o'i syniadau yn ymddangos mor afreal, tybed a gafodd ef drafferth i'w cyflwyno i bobl eraill? A gafodd ef gam, tybed? Yn sicr, nid ef fyddai'r unig un y dywedwyd hynny amdano. Nid wyf yn gwybod digon am Gugielmo Marconi i benderfynu a gafodd ef yr un driniaeth pan fu'n danfon negeseuon radio am y tro cyntaf erioed o ardal Larnog, ym Mro Morgannwg, i Ynys Flat Holm, ym 1897. Ac os cofiaf yn iawn, flynyddoedd cyn hynny, bu John Dillwyn Llewelyn, Penlle'rgaer (o deulu Ynysygerwn), yn gwneud arbrofion digon blaengar yn ardal bae Abertawe gyda theligraff cynnar, ond nid wyf yn sicr a gafodd ef glod am hynny. Dyna dynged llawer arloeswr, mae'n debyg.
Ni wn faint o droedio sydd dros Fynydd y Gwair erbyn hyn. O bryd i'w gilydd, fe feddyliais y dylwn fod yn mynd i'r cyfeiriad hwnnw er mwyn cael gweld a oes olion o'r hyn a fu yn dal yno. Petawn yn llwyddo i wneud hynny, o leiaf gallwn fod yn sicr na fyddai neb yn debyg o danio'i belydrau angheuol i gyfeiriad y car er mwyn diffodd y peiriant!
Cyfeiriadau : E. H. G. Barwell, The Death Ray Man; The Times, 12 Medi 1941
Erthygl gan Dr. Tom G. Davies