| Fe fydd aelodau'r côr, cyn-aelodau a chefnogwyr yn dathlu eto ar Hydref 16eg - dathlu 10fed pen-blwydd y côr. Cynhaliwyd yr ymarfer cyntaf ar Hydref 4ydd, 1994 yn Festri Bethania, Glynnedd - gweddill Côr Eisteddfod Nedd a'r Cyffiniau 1994. Ar hyd y deng mlynedd mae'r côr wedi dysgu a pherfformio amrywiaeth eang o gerddoriaeth mewn cyngherddau ar draws De Cymru. Mae'r côr wedi cystadlu yn gyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac wedi ennill sawl gwobr erbyn hyn. Mae'r côr yn parhau i ymarfer yng Nglynnedd ond gan fod capel Bethania wedi cau erbyn hyn mae'r cartref newydd yng Nghlwb Rygbi Glynnedd. Mae'r ymarferion bob Nos Fawrth am 7 o'r gloch ac mae croeso mawr i gantorion newydd ymuno â ni. Bydd Cinio'r Dathlu yng Nghlwb Rygbi Glynnedd am 7 o'r gloch ar Hydref 16eg. Croeso i chi ymuno â ni a cheir mwy o wybodaeth wrth ffonio 01639 635787. Ym mis Hydref bydd y côr yn cymryd rhan yn y rhaglen "Songs of Praise" a fydd yn cael ei recordio yn y Tabernacl, Treforys ac yn cael ei ddarlledu ar Dachwedd 7fed. Rhaglen i gofio am Ddiwygiad 1904-05 ydyw. Ar Ragfyr 4ydd bydd y côr yn cyflwyno cyngerdd o Gerddoriaeth y Nadolig yn Eglwys Dewi Sant, Castell-nedd gyda'r artistiaid Laura Thomas soprano o Gastell-nedd, Gareth Huw John - tenor ac Eirian Davies - baswr. Allan Fewster fydd yr organydd gwadd.
 |