Mor wahanol oedd yr olygfa bryd hynny yn 1954: ychydig dros 15 o blant, rhieni petrusgar ac un athrawes frwdfrydig ym mherson Gwenifer Burger. Naid i'r tywyllwch, ond naid mewn ffydd a gobaith oedd y penderfyniad i ddechrau Ysgol Gymraeg yn Festri Bethania. Oherwydd arafwch y Pwyllgor Addysg i ymateb i gais rhieni oedd yn mynnu addysg Gymraeg i'w plant aethant ati eu hunain i sefydlu ysgol oedd i gynnig addysg Gymraeg i'w plant, costied a chostio. Yn y cyfnod yma bu swyddogion ac aelodau Capel Bethania yn hynod o garedig a braf oedd gallu datgan yn gyhoeddus ein diolch i Bethania a chapeli ymneilltuol eraill megis Soar-Maesyrhaf a Bethlehem Green am eu cefnogaeth ar hyd y blynyddoedd.
O'r cychwyn tila yma y tyfodd Ysgol Gymraeg Castell-nedd yn ysgol fawr lwyddiannus gyda 350 o ddisgyblion. Dyma'r ffordd i ddangos i'r Awdurdodau a feiddiodd amau dilysrwydd rhieni a fynnai dyfodol i'r iaith Gymraeg yng Nghastell-nedd!
Mrs Pat Jones, prifathrawes ymroddedig yr ysgol a groesawodd ddisgyblion, cyn-ddisgyblion, rhieni, cyn-rieni, cyfeillion, staff a chyn-athrawon yr ysgol i Gapel Bethania. Cawsom gyflwyniad canmoladwy iawn gan ddisgyblion Blwyddyn 6 ar y thema "Dyma ein Hetifeddiaeth" ac fe adroddodd Mrs Mair Waldo Thomas, un o'r rhieni cyntaf, hanes y sefydlu 50 mlynedd yn ôl.
Dadorchuddiodd Dr Bryn Richards, un o'r sylfaenwyr cynnar, lechen yn coffau agor yr ysgol yn Festri Bethania. Siaradodd Mererid Moffat, un o'r disgyblion cyntaf am ei hatgofion o'r ysgol. Dymunodd Peter Hain, AS yn dda i'r ysgol i'r dyfodol gan ddiolch i brifathrawes ac athrawon am eu hymroddiad i ddysgu'r plant a chyrraedd y safonau gorau.
Wedi canu emynau gwahoddwyd pawb yn ôl i'r ysgol ar gyfer lluniaeth. Roedd arddangosfa o hen luniau wedi ei baratoi a chyfle i gyn-ddisgyblion a'u rhieni ryfeddu ar y newid a fu!
Dadorchuddiwyd llechen arall i goffau sefydlu'r ysgol 50 mlynedd yn ôl a thorrwyd teisen y dathlu, o waith Janet Side, gan Maer a Maeres y Dref, Y Cynghorydd a Mrs George Singh.
I gwblhau diwrnod i'w gofio diddanwyd y plant gan yr amryddawn Martyn Geraint gyda'i ganu afiaethus a'i gemau doniol.
Dyma ddechrau da i'r dathliadau a diolch i Mrs Pat Jones, Mrs Undeg Griffiths ac athrawon yr ysgol am y trefniadau.
Mae nifer o gofroddion wedi'u harchebu, megis cwpanau a phwysau papur. Cysylltwch â'r ysgol am fanylion.
Cofiwch am Ginio'r Dathlu yng Ngwesty'r Glyn Clydach, nos Sadwrn, Chwefror 26. 2005. Am docynnau cysylltwch â'r ysgol. Ffôn 01639 637701.
Mwy o luniau yn rhifyn Hydref o Clecs y Cwm a'r Dref.