| Mae'n draddodiad ac yn arferiad bellach i gynhyrchu plât, ac mae'r cynllunydd John Howes o Rhyd-y-fro wedi dewis un o groesau Celtaidd Amgueddfa Gerrig Margam fel canolbwynt i'w gynllun. Mae Croes Conbelin yn dyddio o'r 10fed ganrif ac o garreg anferth wedi ei naddu'n gywrain. O amgylch ymyl y plât mae lliwiau a phatrwm logo'r Eisteddfod yn amlwg. Mae'r platiau ar werth (nifer cyfyngedig) am £30 yr un. Gofynnwyd i'r arlunydd David Carpanini, Leamington Spa, ond yn enedigol o Blaengwynfi, pen uchaf Dyffryn Afan i greu darlun yn seiliedig ar y gân boblogaidd "Y Cwm" gan Huw Chiswell. Mae'r gân bellach yn cael ei chydnabod fel anthem y cymoedd, ers iddi ennill y gystadleuaeth "Cân i Gymru ym 1984. Mae Huw Chiswell, sy'n enedigol o Godre'r Graig, ger Ystalyfera, yn byw yng Nghaerdydd, ac yn Gomisiynydd Rhaglenni Plant S4C, ac yn briod â Corrie, merch o'r Alban. Byrdwn y gân, wrth gwrs, yw cyfarfyddiad dau gyfaill bore oes, un wedi aros yn ei bentref genedigol a'r llall wedi croesi'r ffin. Er iddo gilio "mae'r graig yn sownd o dan ei draed, a chariad at y cwm yn berwi yn ei waed". Mae darlun gwych Carpanini yn dwyn y teitl "Wyt ti'n cofio nawr, meddwl bo ni'n fechgyn mawr" ac yn dangos pedwar o gymeriadau pentref glofaol yn cyfarfod ar ganol stryd ac yn cofio'r dyddiau a fu. Mae'r lluniau yn gwerthu am £49 yr un ac maent wedi eu harwyddo a'u rhifo gan yr artist. Mae'r gwreiddiol ar werth am £3,500. Mae cwpanau lliwgar hefyd ar werth, pris £7. Os oes diddordeb gennych yn un o'r cofroddion yma, cysylltwch â Gareth Richards, ffôn 01792 815152 (dydd.)
 |