BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clecs y Cwm
Côr yr ysgol yn diddanu'r gwesteion Parhau â'r dathlu
Tachwedd / Rhagfyr 2004
Parhaodd ddathliadau 50 mlwyddiant Ysgol Gymraeg Castell-nedd ddydd Gwener, Rhagfyr 3ydd.
Cafwyd seremoni ddadorchuddio ffenestr liw hyfryd o waith yr arlunydd Andrew Lewis, Abertawe. Yn ogystal, chwifiwyd baner yr ysgol am y tro cyntaf ym maes chwarae'r Ysgol.

Jenny Lee Katz yw cynllunydd logo newydd yr ysgol. Mae Jenny sy'n enedigol o Fryncochond yn byw yn Sgiwen erbyn hyn yn gyn - ddisgybl yr ysgol ac Ysgol Gyfun Ystalyfera.

Mae'n gynllunwraig dillad a graffeg ac yn darlithio ar y pwnc ar hyn o bryd. Mae'n fam iCaio, un o ddisgyblion yr ysgol. Y delyn oedd yn cynrychioli'r ysgol yn ygorffennol, bellach adfail yr hen gastell, symbol o oresgyniad y Cymry, ond er bod y Gymraeg wedi bod dan warchae am ganrifoedd mae hi wedi goroesi ac yn parhau'n iach, diolch i Ysgol Gymraeg Castell-nedd ac ymroddiad athrawon a rhieni.

Andrew Lewis a oedd yn gyfrifol am y Ffenestr Liw. O'i stiwdio yn Abertawe y cynlluniodd gampwaith. Disgyblion yr ysgol gwnaeth y darluniau paratoadol a'u cyflwyno iddo. Mae'n olygfa syml - plant yn mwynhau eu haddysg.

Roedd Peter Hain, AS, Cyng. Derek Vaughan, Arweinydd y Cyngor ynghŷd â gwahoddedigion eraill yn bresennol i dystio i'r ddau seremoni ac i ymweld ag ysgol sy'n cynnig addysg o'r safon orau.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy