| Croesawyd y siaradwraig wadd, Helen Lloyd o'r Alltwen gan ein Llywydd, Elizabeth Widlake. Cynllunydd tecstilau wedi arbenigo yng ngwaith gwau yw Helen wrth ei galwedigaeth ac wedi teithio i bedwar ban byd a gweithio i rai o gwmnïau enwocaf y byd ffasiwn yn cyflawni'r swydd yma. Ar ôl hyfforddiant bu Helen yn gweithio am flynyddoedd yng Nglasgow lle bu'n cynllunio i gwmnïau megis Burberry, Pringle a Lyle & Scott. Tra'n gweithio yma bu'n rhaid iddi deithio i'r dwyrain pell er mwyn goruchwylio cynhyrchiad ei chynlluniau. Rhoddodd flas inni o ddiwylliant gwledydd fel Korea a oedd mor Americanaidd ei naws. Yno cafodd gyfle i weithio ar brosiect gyda'r Cenhedloedd Unedig yn yr India. Prosiect oedd hwn i hyrwyddo allforio fwy o gynnyrch y wlad honno ac roedd Helen yn ymwneud â'r diwydiant dillad a siwmperi yn arbennig. Roedd wedi dwli ar ardal y Punjab ac wedi cael croeso ar aelwydydd moethus rhai o drigolion y wlad. Disgrifiodd fwrlwm Delhi yn gywrain, a diddorol oedd cael cipolwg ar yr agwedd yma o'r wlad enfawr yma. Er fod y byd ffasiwn yn du hwnt o gyffrous mae Helen erbyn hyn wedi cefni ar yr hudoliaeth yma ac wedi symud nôl i'w milltir sgwâr i fagu ei theulu. Cytunodd pawb fod y noson wedi rhoi cipolwg hynod ddiddorol o fyd cynllunydd ffasiwn a mawr yn ein diolch i Helen am wneud hynny.
 |