| Daw cyfnod o wasanaeth i ben i Swyddfa Bost Lônlas. Swyddfa Bost Sgiwen Uchaf a'r brif Swyddfa Bost ar yr Heol Newydd. Bwriedir ail agor Swyddfa newydd sbon yn Siop Jefferies. Bydd swyddfa Bost Cefn Parc yn parhau ar agor. Bu'r Swyddfa ar yr Heol Newydd yno am dros hanner canrif (hyd y gwn i) ac yn parhau mor brysur ag erioed. Bwriedir cynnal trafodaethau cyhoeddus ar ddyfodol y Swyddfeydd ond anaml y newidir penderfyniadau fel hyn. Hywel Widlake
 |