Er mai dros y we y gwnaed mae'n syndod bod cynifer â 40,505 wedi bwrw pleidlais a bod cymaint o ddiddordeb yn ein henwogion. Dyma bôl piniwn ar-lein mwyaf erioed yng Nghymru. Cyhoeddwyd y canlyniadau ar ddydd Gŵyl Dewi âr deg uchaf oedd:
1. Aneurin Bevan , 2. Owain Glyndŵr , 3. Tom Jones , 4. Gwynfor Evans, 5. Richard Burton, 6. Gareth Edwards, 7. Dylan Thomas, 8. Lloyd George, 9. Robert Owen, 10. Saunders Lewis
Ym 1913 cynhaliwyd cystadleuaeth papur newyddion y Western Mail i enwi Cymry mwyaf amlwg yr oes. David Alfred Thomas (yr Is-Iarll Rhondda), perchennog gweithfeydd glo a gwleidydd adnabyddus a gytunodd i gwrdd â holl gostau paratoi a gosod cerfluniau y deg Cymro enwocaf er mwyn addurno. Neuadd Ddinesig Caerdydd ym Mharc Cathays. Cynigwyd gwobr o £20 i'r sawl a fedrai lunio rhestr a fyddai'n cyfateb â dewis y beirniaid.
Ni bu ymateb y cyhoedd yn ysgubol, ond er hynny derbyniwyd cyfanswm o 354 o bleidleisiau dros 250 o wrthrychau teilwng. Cafwyd blas ar deimlad y Cymry ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf tuag at eu harwyr. Ffefryn amlwg y darllenwyr yr adeg honno oedd Owain Glyndŵr a dderbyniodd 295 o enwebiadau. Dyma arwyr y Cymry ym 1913:
Owain Glyndŵr, Hywel Dda, Dewi Sant, Yr Esgob William Morgan, Llywelyn Fawr,Dafydd ap Gwilym, Williams Pantycelyn, Llywelyn ein LIyw Olaf, Griffith Jones, Gerallt Gymro.
Bu Clecs y Cwm yn holi rhai o swyddogion a gohebwyr y papur ynglŷn âu harwyr hwythau, yn arbennig felly y rhai sydd â chysylltiadau â Chwm Nedd. Pwy tybed fyddai eu harwyr lleol?
Roedd Kathleen Harries Glyn-nedd ddigon hapus ar Nye Bevan fel prif arwr y Cymry. "Gwnaeth waith da yn sefydlur Gwasanaeth Iechyd Gwladol, er mai digon truenus yw sefyllfar Gwasanaeth heddiw," dywedodd. Ychwanegodd, Rwy'n falch bod Gwynfor Evans yn uchel ar y restr ac Owain Glyndŵr fel hen arweinydd y Cymry. Yn lleol, rhaid cyfaddef bod y diweddar Richard Evans (Dic Penderyn) a fu farw y llynedd yn dipyn o arwr i mi. Roedd ganddo stôr o wybodaeth hanesyddol am ein hardal ac mae colled enfawr ar ei ôl."
Teimlai Gwyn Rowlands, Golygydd Clecs y Cwm fod Ray Milland, yr actor o Felincryddan, aenillodd Oscar, yn haeddu safle uwch yn y pôl a bod yr arlunydd Will Roberts, a fu farw yn 2001, yn artist or safon uchaf ac wedi gosod tref castell-nedd ar y map.
Yn bersonol, mi bleidleisiais dros Owain Glyndŵr, dywedodd Gareth Roberts , yr argraffydd. "Mae'n symbol ac eicon dros ryddid a pharhad y genedl Gymraeg," meddai. "O ran arwr lleol, mae nifer ohonynt, gan gynnwys Rhys Phillips, awdur y gampwaith The History of the Vale of Neath, Alfred Russel Wallace y gwyddonydd, Dai Morris, Randal Davies a Morlais Williams y chwaraewyr rygbi ac wrth gwrs Siân Lloyd y ferch dywydd!"
Mae Heulwen a Clayton Richards, Gohebwyr Aberdulais yn cytuno mai Owain Glyndŵr yw gwir arwr y Cymry, ac am ychwanegu dau gymeriad sydd â chysylltiadau lleol ir arwyr lleol. Roedd H. M. Stanley yn fyd-enwog yn ei ddydd ac fe briododd â Dorothy, un o deulu Coombe Tennant, Plas Llangatwg. Y llall yw Eos Morlais (Robert Rees), y tenor enwog a gladdwyd ym Mynwent Capel Seion Fforest, lle mae Clayton a Heulwen yn weithgar.
Teimlai Phylip Jones mai gwarth o beth oedd dewis Tom Jones yn arwr! Cyfrannodd ddim at ddatblygiad yr iaith ar genedl. Roedd o'r farn mai'r Esgob William Morgan efallai Griffith Jones, Llanddowror a ddylai dderbyn y clod uchaf. "Ef a ddysgodd y werin bobl -i ddarllen adeg y Diwygiad Methodistaidd. Bu cyfraniad Howel Harris a Daniel Rowlands yn enfawr hefyd ond o'r pedwar hyn - Griffith Jones i mi".
Ychwanegodd: "Mae dewis arwr lleol yn anodd i mi, ond gan fod tri Doctor Cerddoriaeth wedi'u codi yn Resolfen: David Evans, William Rhys Herbert a Tom Hopkin Evans ac os dewis un ohonynt, David Evans o drwch blewyn syn cael fy mhleidlais. Cyfansoddodd ddegau o donau cyfarwydd a'r un sy'n hoff gen i yw "Henllan emyn-don i blant. Rwy'n hoff iawn o gerddoriaeth y Dr David Evans, a ddaeth yn Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd."
I fyny yn y Coelbren roedd Phyllis Phillips yn hapus ar ddewis Nye Bevan, sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. I Gwm Tawe yr aeth Phyllis i chwilio am ei harwr lleol a dewis Daniel Protheroe, y cyfansoddwr o Ystradgynlais. Ac er mai o Sbaen y daeth Adelina Patti roedd yn sicr yn arwres i nifer ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf ," dywedodd.
Ym Mlaendulais roedd Mary Howells yn rhoi Williams Pantycelyn ac Ann Griffiths ar ben y rhestr genedlaethol. "Roedd cyfraniad y ddau yma i'n hemynyddiaeth a'n diwylliant yn amhrisiadwy", meddai. Ychwanegodd "ces fy mreintio o fod o dan weinidogaeth Y Parchg Erastus Jones, a ddaeth i Soar Blaendulais fel gweinidog ym 1947. Symudodd oddi yma ym 1967 i fod gyda thrigolion Aberfan wedi'r drychineb. Yn y cyfnod y bu gyda ni bu'n ein harwain fel pobl ifanc ac yn gweinidogaethu mewn modd arbennig. Diolch iddo."
Mae Dr Tom Davies, syn paratoi'n fisol yr erthyglau ar hanes lleol i Glecs y Cwm o'r farn mai'r Esgob William Morgan yw gwir arwr y Gymry, neu ddylai fod. Dywedodd "yn sicr dyma'r un sicrhaodd ddyfodol yr iaith Gymraeg drwy gyfieithu'r Beibl ym1588. Beth fyddai tynged yr iaith a'n cenedl heb ei gyfraniad amhrisiadwy".
"Ffermwr Ynystwyli, Noah David yw'n harwr lleol", ychwanegodd. "Bu'n cadw dyddiaduron ac o ganlyniad cawn olwg gyflawn ar fywyd y cwm rhwng 1840-70 cyn dyfodiad y diwydiant glo."
Roedd Hywel Widlake or Sgiwen am osod dau gymeriad lleol ar binacl yr arwyr lleol, sef Syr S. T. Evans yr Aelod Seneddol y Twrnai Gwladol a Joseph Tregelles Price y Crynwr o ddiwydiannwr a sefydlodd y Gymdeithas Heddwch, rhagflaenydd y Cenhedloedd Unedig cawr yng ngwir ystyr y gair.
Diolch i bawb am eu cyfraniadau. Os oes gennych chi ddarllenwyr, cysylltwch â ni. Byddain dda clywed eich barn.