| Yng Ngŵyl Gymreig gyntaf Disneyland, Paris wrth gwrs. Ar Fawrth 2il eleni ymgasglodd grwpiau pop, dawnswyr a chorau plant ac oedolion i ddiddanu'r miloedd oedd Mharc Disney ar eu gwyliau. Roedd yn hawdd colli hyd yn oed y cannoedd o Gymry a oedd yno ymysg y miloedd, ond o bryd i' w gilydd clywyd y Gymraeg yn atseinio o theatr Fantasyland neu o'r llwyfan pwrpasol ym Mhentref Disney. Dawnsiodd Ysgol Gymraeg Castell-nedd yn y theatr - a chynulleidfa frwdfrydig yn cynnwys Côr Ysgol Gyfun Bryn Tawe yn mwynhau eu perfformiad. Ond uchafbwynt y penwythnos iddyn nhw oedd cael dawnsio yn nhafarn Canu Gwlad Billy Bob's. Roedd y lle dan ei sang, ac awyrgylch gwych yno. Cafodd y plant gymeradwyaeth frwdfrydig iawn am eu dawnsio gwerin, ond y clocsio oedd uchafbwynt y sioe - gymaint nes i'r ysgol gael gwahoddiad yn y fan a'r lle i fynd yn ôl y flwyddyn nesaf.
Ar ôl pedwar diwrnod llawn hwyl, cyrhaeddodd pawb adre'n saff. Nid i ymlacio, ond i ddechrau paratoi ar gyfer Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun, lle bydd y plant yn dawnsio ac yn clocsio gyda'i gilydd unwaith eto. Glynis Williams
 |