
Canmol ac edrych ymlaen flwyddyn
Er gwaethaf diwrnod cyntaf glawog yr oedd yr Urdd yn curo'i gefn ei hun fore Mawrth wedi i dros 22,000 o bobl ymweld â maes yr Eisteddfod ddydd Llun.
Yn wyneb yr holl sylw a roddai'r cyfryngau i'r Jiwbili Brenhinol dros y penwythnos yr oedd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Huw Llywelyn Davies, yn fwy na bodlon gyda'r llwyddiant diwrnod cyntaf hwn yn wyneb, yn gyntaf, law trwm ac wedyn haul llygaid goleuni yn y pnawn!
Cyfeiriodd at ddau ymwelydd â Chaerdydd ar gyfer dathliadau'r Jiwbili yn troi i mewn i Faes yr Eisteddfod ac yn aros yno drwy'r dydd gan droi cefn ar y dathliadau brenhinol.
Pwysleisiodd Mr Davies nad amharodd y Jiwbili, er ei holl gyhoeddusrwydd torfol, ddim ar yr Eisteddfod.
"Nid amharwyd dim ar weithgarwch yr Urdd o gwbl ddoe ac aeth popeth ymlaen fel y byddem wedi dymuno," meddai.
Yr oedd rhai wedi ofni y byddai gweithgareddau Jiwbili - yn cynnwys tanio gynnau yng nghanolfan ddinesig Caerdydd dafliad carreg o'r Maes - wedi tarfu ar yr Eisteddfod ond ni ddigwyddodd hynny ac yr oedd ysbryd pawb sydd ynglyn â'r Eisteddfod yn uchel ddydd Mawrth a gohebwyr yn chwilio am air Cymraeg am upbeat!
Edrych ymlaen at 2003 Yr oedd dydd Mawrth yn ddiwrnod i edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf hefyd a geiriau fel gwych a chyffrous oedd Eurig Davies, Cadeirydd Bwrdd Eisteddfod a Chelfyddydau yr Urdd yn eu defnyddio wrth wahodd i Eisteddfod Tawe, Nedd ac Afan, y flwyddyn nesaf.
Canmolodd yn arbennig Faes a fydd gystal bob tamaid a'r un sy'n cael ei ganmol gymaint yng Nghaerdydd eleni.
"Bydd ar dir hen ystad Margam, rhwng môr a mynydd yng nghysgod bryniau Morgannwg ac yng ngolwg Bae Abertawe," meddai Mr Davies sydd hefyd yn gadeirydd y pwyllgor gwaith sy'n trefnu'r wyl honno.
Talodd deyrnged arbennig i'r gefnogaeth i'r Eisteddfod a'r brwdfrydedd ynglyn â hi mewn ardaloedd fel Porth Talbot sydd wedi dioddef cymaint yn ddiwydiannol dros y blynyddoedd diwethaf.
Cadarnhaodd y bydd yr Urdd y flwyddyn nesaf yn dychwelyd at drefn arferol ei chynnal gyda meysydd parcio cyfagos am ddim i Eisteddfotwyr yn wahanol i'r drefn yng Nghaerdydd eleni lle gall parcio fod yn fusnes digon drud.

|