bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Urdd 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


CefndirGwell hwyr na hwyrach

Huw Llywelyn Davies, Cadeirydd y Pwyllgor GwaithNeges Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerdydd - Huw Llywelyn Davies . . .




Edrych ymlaen yn lle edrych yn ôl!
Ar ôl holl helbulon y flwyddyn ddiwetha, rydyn ni, bobl Caerdydd a'r Fro yn gallu uniaethu'n hawdd iawn gyda geiriau Dafydd Iwan. "Er gwaetha pawb a phopeth, ryn ni yma o hyd!

Erbyn hyn roedden ni wedi meddwl taw edrych nôl fydden ni gydag atgofion hapus iawn o 'Steddfod lwyddiannus i'r Urdd yng Nghaerdydd a'r Fro 2001.

Ond na. Oherwydd hunlle clwy traed a'r genau y llynedd, dal i baratoi ar gyfer y Brifwyl y mae pawb yn y parthe yma, yn hytrach na mwynhau'r atgofion. Ond yn diolch i'r drefn ar yr un pryd fod amgylchiadau wedi'n galluogi ni i ohirio'r Wyl yn hytrach na'i dileu yn llwyr.

Y siom wedi diflannu
Ac erbyn hyn mae'r siom gwreiddiol wedi hen ddiflannu; ail- gydiwyd yn y bwrlwm a'r brwdfrydedd, ac mae pawb yn edrych ymlaen yn eiddgar at yr wythnos fawr ddechre Mehefin. Falle'i bod hi'n dod flwyddyn yn hwyr, ond bydd y croeso yr un mor gynnes, a ninne'n ffyddiog fod yna wledd yn aros pawb.

I ddechre, mae'r maes yn un delfrydol. Wedi ei leoli ar dir eang braf yng nghysgod muriau'r castell, reit yng nghanol y ddinas. Llecyn hynod o gyfleus felly, o fewn tafliad carreg at y siopau, Stadiwm y Mileniwm, a gwestyai a thai bwyta di-ri. Ond un gair o rybudd. Fe fydd y traffig yn broblem. Mae yna dagfeydd yn y Brifddinas ar y gore y dyddie yma, felly y neges yw rhoi digon o amser i gyrraedd, neu os gellir teithio ar fws neu drên yn hytrach nag mewn ceir, yna gorau oll i bawb!

Sioeau lliwgar
Ac ar ôl cyrraedd bydd yr holl atyniadau arferol o ran y cystadlu, yr arddangosfeydd a'r gwahanol weithgareddau.

Bydd yna wedd newydd i brif seremonïau'r prynhawn; cyffro sioe'r plant cynradd "Syniad Sam" nos Lun, nos Fawrth a nos Fercher yng nghyfforddusrwydd Neuadd Dewi Sant; pedair noson o fwrlwm sioe gerdd disgyblion yr Ysgolion Uwchradd yn cael ei llwyfannu yn Theatr arbennig Ysgol Stanwell, Penarth.

Y Babell Roc ar y maes yn un newydd gyffrous; Cystadlaethau drama yn Theatr y Sherman; Shân Cothi, Fflur Wyn, Daniel Evans, Mirain Haf, Côr Caerdydd a Jazz News ymhlith y sêr fydd yn ymddangos ar lwyfan y Pafiliwn yn y ddau gyngerdd mawreddog nos Fercher a nos Iau, ac yna'r Gymanfa Ganu i gloi'r Wyl yng Nghapel Tabernacl ar y nos Sul.

rhywbeth at ddant pawb gobeithio, ond cofiwch achub ar y cyfle hefyd tra byddwch chi yma i grwydro'r ardal, y Ddinas a'r Fro, a chael blas o gyffro'r datblygiadau newydd, yn enwedig yn ardal y Bae, a rhin yr hen gyfoeth o'n cwmpas yng Nghanol Caerdydd a Bro Morgannwg.

Dechrau Mehefin amdani felly. Fel y dywed Mari George wrth gloi ei chywydd croeso:
"Hei dewch, mae Caerdydd ar dân i'ch cyfarch cewch y cyfan.





lluniau'r wythnos
Lluniau Dydd Mawrth

Oriel Caerdydd

Crwydro'r Brifddinas

Lluniau Dydd Llun

Lluniau dydd Mercher

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Gwener

Lluniau dydd Sadwrn

O'r Maes
Coron ar ei phen - diolch i ferched y strydoedd

Gwefr y gystadleuaeth - tad yn clywed ei ferch filoedd o filltiroedd i ffwrdd

Chwe llywydd - ond dim ond pump ar y llwyfan!

Llythyr at Hedd Wyn yn ennill medal i ddysgwraig

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy