bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Urdd 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r MaesCoron ar ei phen - diolch i ferched y strydoedd

Angharad Elen BlytheY mae bywyd merched y stryd mewn rhan amheus o ddinas Vancouver yng Nghanada yn ganolog i'r gwaith a enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i Angharad Elen Blythe o Landwrog, Arfon.


Treuliodd Angharad dri mis yng Nghanada ac yno y clywodd am ddiflaniad dros 50 o ferched ac amharodrwydd, meddai, yr awdurdodau i ymchwilio'n drwyadl i'r dirgelwch am mai puteiniaid a'r difreintiedig oedd nifer ohonynt.

Dyddiadur Cathy Gonzales yw un o'r tri gwaith ysgrifenedig a anfonodd Angharad i'r gystadleuaeth.

Mae'n darlunio bywyd ardal Downtown Eastside Vancouver a dywedodd Angharad iddi fynychu gweithdy yno lle'r oedd cerddi gan rai o ferched yr ardal yn cael eu cyflwyno.

"Mae'n ardal eitha seedy efo llawer o gamdrin ac yr oedd yn agoriad llygaid i mi - ond wnes i ddim siarad gyda'r puteiniaid eu hunain," meddai.

Dywedodd iddi fod yn ysgrifennu ddydd a nos yn llyfgell Vancouver gan anfon y gwaith wedyn i'w chariad ar ebost gydag yntau yn ei anfon i swyddfa'r Urdd ar gyfer y gystadleuaeth.

Disgrifwyd Angharad fel awdur "aeddfed a chrefftus" gan Dafydd Johnson y beirniad a ddywedodd ei fod yn edrych ymlaen at ddarllen rhagor o'i gwaith.

Taniwyd diddordeb Angharad mewn llenyddiaeth gan ei hathro Cymraeg yn Ysgol Syr Huw Owen, Caernarfon, Dafydd Fôn Williams.

Ond wedi gadael ysgol â chwrs celf yr ymunodd yng Nghaerdydd cyn troi ei chefn ar beintio gyda phaent er mwyn ymddiddori, meddai, "mewn creu darluniau gyda geiriau."

Graddiodd yn y Gymraeg yng Nghaerdydd ac mae'n awr a'i bryd ar wneud gradd ymchwil yn y Gymraeg "gyda llawer o bwyslais ar sgwennu creadigol."

Y mae'n gweithio dros yr haf er mwyn casglu arian i'w galluogi wneud hynny.
"Mae'n fusnes reit ddrud," meddai.

Ynglyn â'i chynlluniau ar gyfer y dyfodol dywed yr hoffai sgrifennu nofel a straeon byrion.

"Dyna ydi mhetha i ond mi leciwn i gael sgriptio hefyd achos yno mae'r pres - ond y mae'n bwysig cael nofelwyr hefyd achos ers y mini adfywiad efo Robin Llewelyn, Mihangel Morgan ac Angharad Tomos does yna ddim digon o nofelwyr da yn sgrifennu yn y Gymraeg," meddai.

Ar wahân i sgrifennu dywedodd ei bod yn mwynhau teithio hefyd.





Cefndir
Gwell hwyr na hwyrach

Ffeithiau Urddasol

Prifddinas Cymru - Prifddinas yr Urdd

lluniau'r wythnos
Lluniau Dydd Mawrth

Oriel Caerdydd

Crwydro'r Brifddinas

Lluniau Dydd Llun

Lluniau dydd Mercher

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Gwener

Lluniau dydd Sadwrn

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy