
Ffeithiau Urddasol
Tri deg o ffeithiau am yr Urdd a'r Eisteddfod
Llythyr gan y golygydd, Ifan ab Owen Edwards, yn Cymru'r Plant, Ionawr 1922, a roddodd gychwyn i'r Urdd.
Daeth Cymru'r Plant i ben yn 1987 gyda chylchgronau eraill yn cymryd ei le.
Yng Nghorwen yn 1929 y bu Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yr Urdd yn dilyn awgrym gweinidog o'r dref, T. Arthur Jones.
Mae'r Urdd yn cynnal cystadlaethau chwaraeon hefyd yn amrywio o bêl-droed i pwl..
Yn 1928 y bu gwersyll cyntaf yr Urdd, yn Llanuwchllyn, lle'r oedd Syr ifan ab Owen Edwards yn byw.
Yn 1932 y cafodd yr Urdd dir ar gyfer gwersyll yn Llangrannog. Ar un adeg yr oedd gan yr Urdd wersyll ym Mhorthdinllaen ger Nefyn.
Byddai bechgyn a merched yn gwersylla yn Llangrannog a Phorthdinllaen bob yn ail - ond byth yn yr un gwersyll gyda'i gilydd.
Ar un adeg yr oedd aelodau o'r Urdd yn mynd o ddrws i ddrws yn gwerthu llyfrau Cymraeg. Tra pharhaodd yr ymgyrch werthu llyfrau hon o 1937 tan 1965 gwerthwyd dros 400,000 o lyfrau Cymraeg.
Yn 1950 y daeth Glanllyn ar lan Llyn Tegid ger Y Bala yn eiddo i'r Urdd. Ar y pryd yr oedd y plasty a'i diroedd yn eiddo'r Trysorlys yn dâl am ddyled treth marwolaeth teulu'r Wynniad o Wynnstay.
Yn 1948 y dechreuodd yr Urdd gyhoeddi ei neges ewyllys da .
Syr Ifan ab Owen Edwards a sefydlodd yr ysgol gynradd Gymraeg gyntaf - yn Aberystwyth yn 1939 yn dilyn dyfodiad faciwis o Lerpwl i'r ardal.
Llywydd, neu bennaeth, cyntaf yr Urdd oedd J. M. Howell o Aberdyfi. Fe'i dilynwyd yn 1944 gan Syr Ifan, y sylfaenydd, a fu wrth y swydd tan ei farwolaeth yn 1970 pryd y'i dilynwyd gan ei weddw ac ar ei marwolaeth hi daeth Ifan Prys Edwards, eu mab, i'r swydd.
Bu'n rhaid wrth dair cyfrol drwchus i adrodd holl hanes yr Urdd. Yr awdur oedd R. E. Griffith a fu ar staff y mudiad am ddeugain mlynedd. Dim ond un gyfrol oedd ei hangen i ddweud yr hanes yn Saesneg.
Bu awgrymiadau yn ddiweddar y dylid newid llw yr Urdd i fod yn ffyddlon i Gymru, i gyd-ddyn i Grist oherwydd ei fod yn dramgwydd i rai nad ydynt yn Gristnogion.
Y llw yn llawn yw: Byddaf yn ffyddlon i Gymru a theilwng ohoni; Byddaf ffyddlon i'm cyd-ddyn, pwy bynnag y bo; Byddaf ffyddlon i Grist a'i gariad ef.
Yn 1944 y crewyd bathodyn triongl yr Urdd gyda'r pigyn gwyn yn cynrychioli Crist, y coch yn y canol yn cynrychioli cyd-ddyn a'r gwyrdd yn cynrychioli tir Cymru.
Yn Nhreuddyn, Sir Y Fflint, y sefydlwyd yr adran gyntaf o'r Urdd, ym 1922.
Urdd Gobaith Cymru Fach oedd enw'r mudiad ar y cychwyn.
Yn y tridegau yr oedd yr Urdd yn trefnu mordeithiau. Yr oedd y gyntaf yn 1933 i Sgandinafia gyda 500 o aelodau yn hwylio ar yr Orduna.
Rhwng y ddau ryfel byd yr oedd gan aelodau'r Urdd lifrai.
Pan agorwyd Glan Llyn yr oedd gwersyllwyr yn cael eu cludo ar draws Llyn Tegid o'r tren ar gwch o'r enw Brenin Arthur.
Er mwyn dewis y 15,000 o gystadleuwyr mewn dros 460 o gystadlaethau yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd cynhelir 96 o Eisteddfodau Cylch ac 16 o Eisteddfodau Rhanbarth trwy Gymru.
Am y tro cyntaf yn ei hanes fu yna ddim Eisteddfod Genedlaethol gan yr Urdd y llynedd - oherwydd y clwy traed a genau.
Mae'n costio £4.50 i fod yn aelod o'r Urdd.
Mae'r Urdd yn cydweithio â Chymorth Cristnogol i helpu plant y stryd yn Calcutta, yr India.
Y mae tafarn ar faes Eisteddfod yr Urdd bob blwyddyn - ond mae'r holl ddiodydd a choctels heb alcohol!
Enw clwb i aelodau'r Urdd ydi Urddaholics.
Rhifau ffôn defnyddiol i rai sy'n teithio i'r Eisteddfod ywBws: Llinell Wybodaeth Cymru Gyfan: 0870 608 2608 Rheilffordd: 0845 748 4950 Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd: 01446 711 111
Ymhlith y rhai sydd wedi ennill prif wobrau yn yr Urdd y mae: Dic Jones, Sian Lloyd, Eigra Lewis Roberts, Gerallt Lloyd Owen, Emyr Lewis, Bryn Terfel, Aled Jones a Rhys Meirion . . .

|