
Llythyr at Hedd Wyn yn ennill medal i ddysgwraig
Llythyr at Hedd Wyn oddi wrth ei chwaer a sgwrs rhwng Siwan a Llywelyn Fawr am ei chariad y tu allan i briodas a enillodd fedal y dysgwyr i ferch 18 oed o Gaerdydd yn Eisteddfod yr Urdd.
Dywedodd Louise Brown iddi gael ei sbarduno i gyfansoddi'r llythyr gan chwaer Hedd Wyn ar ôl gweld y ffilm Gymraeg am y bardd.
Dywedodd iddi ei gweld sawl gwaith.
Yn dod o deulu cwbl ddi-Gymraeg bu Louise yn dysgu Cymraeg ers yn 11 oed ar ôl cael ei chyflwyno i'r pwnc yn yr ysgol.
Y mae ei brawd, 16 oed, hefyd yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol. "Ond dydi o ddim yn hoffi'r pwnc," datgelodd Louise yn dilyn seremoni Anrhydeddu Cymry Cymraeg o Ddewis ar lwyfan y Brifwyl.
Amdani ei hun, fodd bynnag, dywedodd: "Yn fy marn i mae'n bwysig iawn i bobl ifanc allu siarad iaith ein gwlad, iaith hynaf Ewrop."
Y gystadleuaeth eleni oedd cyfansoddi tri darn ysgrifenedig gwahanol.
Ar ôl camu o'r llwyfan cyfaddefodd Louise ei bod yn hynod nerfus.
"Yr ydw i'n teimlo'n falch," meddai, "ond rwy'n dal i grynu."
Yr oedd ei mam, sy'n dod o Loegr, a'i mam-gu yn y gynulleidfa i'w gweld yn cael ei anrhydeddu ond ni allai ei thad, sy'n dod o Lyn Ebwy fod yn bresennol oherwydd ei fod ar alwad yn adran radiotherapi Ysbyty Eglwys Newydd lle mae'n gweithio.
Fel sawl un o enillwyr y gystadleuaeth o'r blaen dywedodd Louise mai ychydig iawn o gyfle y mae'n ei gael i ymarfer ei Chymraeg yn gymdeithasol ond bod ganddi un ffrind sy'n medru'r iaith.
Ar hyn o bryd mae yng nghanol ei arholiadau lefel A ac yn edrych ymlaen at fynd i astudio'r gyfraith yn Rhydychen.
Yn ei amser hamdden mae'n mwynhau mardchogaeth a nofio a bu'n gweithio mewn tafarn yng Nghaerdydd ers Chwefror ac yn nerbynfa Ysbyty'r Eglwys Newydd.
"Rwyf wedi dwli ar fyw yng Nghaerdydd gan fod cymaint i'w weld a'i wneud yma i bobl ifainc," meddai gan ychwanegu mai ei bwriad yw dychwelyd i Gymru ar ôl cwblhau eu hastudiaethau yn Rhydychen.
Cyd ddisgbl â Louise ddaeth yn ail, Zoe Thomas, ac yn gydradd drydydd yr oedd Lloyd Pestell o Goleg Meirion Dwyfor a Lowri Jackson o Aelwyd Coleg Gorseinon.

|