
Prifddinas Cymru - Prifddinas yr Urdd
Wyddech chi hyn? 35 o ffeithiau am Gaerdydd, Prifddinas Cymru a Phrifddinas yr Urdd am wythnos
Ychydig dros 200 mlynedd yn ôl y dechreuwyd galw'r lle yn Caerdydd. Cyn hynny Caerdyf oedd yr enw - cyfuniad o Caer a Tyf; ffurf ar enw'r afon Taf. Caer ar yr afon Taf, felly, gyda'r ffurf Saesneg Cardiff yn nes at y Caerdyf gwreiddiol na'r ffurf Gymraeg newydd (ynganwch Caerdyf gan roi sain Saesneg i'r f).
Dim ond ym 1955 y daeth Caerdydd yn brifddinas Cymru. Hi yw prifddinas ieuengaf Ewrop
Dim ond yn 1905 yr enillodd Caerdydd ei siarter dinesig.
Yr oedd y gwr a gynlluniodd y rhan newydd o Gastell Caerdydd , William Burges, yn cynllunio coleri cwn, tebotiau a photiau pisho hefyd - heb sôn am gynllunio Cadeirlan Cork yn Iwerddon.
Daeth y Rhufeiniaid i Gaerdydd yn 76OC.
Daeth Caerdydd i fri yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel porthladd glo.
Gyda dim ond mil o boblogaeth yn 1801 yr oedd 164,000 yn byw yno erbyn 1901 - ond nid bridio wnaethon nhw ond symud i mewn!
Mentrodd Ail Ardalydd Bute ei holl gyfoeth ar ddatblygu dociau Caerdydd - a thalodd ei fenter ar ei ganfed iddo. Pan oeddynt ar eu mwyaf ffyniannus oddi yma yr allforiwyd 45 y cant o lo Cymru.
Ar ei anterth porthladd Caerdydd oedd y porthladd glo a haearn mwyaf yn y byd ond daeth hynny i ben yn 1939.
Y mae goleudy ym Mharc y Rhath Caerdydd i goffau'r ffaith mai o borthladd Caerdydd yr hwyliodd Robert Scott ar y Terra Nova i'r Antartig.
Am ganrifoedd yr oedd Llandaf yn dref farchnad annibynnol ond yn awr yn rhan o Gaerdydd.
Ymsefydlodd Teilo Sant yma yn y chweched ganrif.
Ar wahân i eglwys gadeiriol Coventry, Cadeirlan Caerdydd yw'r un a ddioddefodd fwyaf yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Un o atyniadau pennaf y Gadeirlan erbyn hyn yw cerflun Jacob Epstein o'r Crist.
Does yna yr un ferch yn cael ei choffau ymhlith y cerfluniau o Gymry amlwg yn Neuadd y Ddinas . Ymhlith y dynion o fri mae Dewi Sant, Glyndwr, Gerallt Gymro, Hywel Dda a Llywelyn ap Gruffydd.
Y cynllunydd gerddi Capability Brown a gynlluniodd Barc Bute - yn 1777.
Wedi pesgi ar lo yr oedd teulu Bute ymhlith y cyfoethocaf ym Mhrydain gyda chartrefi yn yr Alban a Sbaen hefyd.
Agorwyd y rhan gyntaf o'r Brifysgol ym Mharc Cathays ym 1909 - ac yr oeddan nhw'n dal i ychwanegu adeiladau sylweddol yno yn y chwedegau.
Cysegrwyd y Deml Heddwch ym Mharc Cathays yn 1938 ar drothwy'r Ail Ryfel Byd.
Y mae yna dros 2,500 erw o dir glas o fewn ffiniau tref Caerdydd.
Y mae'r parc lle cynhelir Eisteddfod yr Urdd yn ymestyn bedair milltir o furiau'r castell yr holl ffordd i Landaf.
Un o'r caneuon enwocaf am Gaerdydd ydi I'm Cardiff born, I'm Cardiff bred/ And when I'm gone I'll be Cardiff dead gan yr Hennessys.
Yng Nghaerdydd y ganwyd y nofelydd Saesneg, Howard Spring. Dechreuodd weithio mewn siop gigydd. Wedyn, bu'n glerc ar y South Wales News gyda'r golygydd yn talu am ddosbarthiadau nos iddo yn y Brifysgol.
Ganwyd David Ivor Davies yn Ffordd y Bont-faen - daeth i enwogrwydd fel Ivor Novello.
Newidwyd enw Villa Marie yn Fairwater Road lle ganwyd Roald Dahl yn Ty Gwyn .
Nofelydd arall; a fu'n byw yng Nghaerdydd yw Jack Jones a symudodd o Ferthyr i fyw uwchben siop esgidiau yn Rhiwbeina. Yn ddiweddar dadorchuddiwyd cofeb iddo yn y llyfrgell leol.
Cafodd Benny Hill ei gymryd i'r ddalfa gan heddlu milwrol wrth ddrws y Theatr Newydd am beidio ag ymateb i alwad i ymuno a'r lluoedd arfog.
Yng Nghaerdydd y bu T. Rowland Hughes yn byw tra'n gynhyrchydd gyda'r BBC rhwng 2935 a 1945 ac yma y cyfansoddodd nofelau fel O Law i Law.
Ar ôl tafarn yr enwyd maes rygbi enwog Caerdydd, Maes yr Arfau - y Cardiff Arms.
Enwyd ffilm ar ôl un rhan o'r dinas, Tiger Bay gyda John Mills a'i ferch Hayley yn cymryd rhan.
Efeilldref Caerdydd ydi Nantes yn Ffrainc ac y mae yna Boulevard de Nantes yn y Brifddinas.
Un o'r arwyddion cyntaf y mae teithwyr tren o'r dwyrain yn ei weld wrth gyrraedd Caerdydd ydi, "It's Brains you want."
Gellir gweld ôl troed deinosoriaid yn yr Amgueddfa Genedlaethol.
Y mae gwaith Iolo Morganwg i'w weld ar dwr eglwys Fair yng nghanol y ddinas.
"Tref iawn," oedd disgrifiad Christopher Saxton o Gaerdydd - gan ychwanegu, "fel ag y mae trefi yn mynd yn y wlad hon."

|