
Chwe llywydd - ond dim ond pump ar y llwyfan!
Cafodd chwech o enwogion y fro - yn amrywio o sylwebydd gwleidyddol i actor a rannodd lwyfan gyda Kathleen Turner noeth - wahoddiad i fod yn llywyddion y dydd yn Eisteddfod yr Urdd
Llywydd diwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a'r Fro, ar y dydd Llun, ydy'r actores, Sara Hunter.
Tra'n ddisgybl yn Ysgolion St Baruc yn y Barri ac yna yng Nglantaf, roedd Sara yn aelod brwd o'r Urdd.
Yn 16, enillodd y gadair yn Eisteddfod ym Merthyr a dywed iddi fod ar y llwyfan bob blwyddyn yn gwneud rhywbeth neu'i gilydd!
Actiodd yn Elvis, cynhyrchiad Theatr Ieuenctid yr Urdd.
Yn ogystal ag edrych ar ôl Soffia, ei merch saith mis oed, mae'n parhau i actio ac yn cyflwyno ar Pnawn Da ar S4C digidol.
"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at gael dod i'r steddfod a mwynhau diwrnod yma fel teulu," meddai.
Dydd Mawrth Yn addas iawn, ar gyfer diwrnod Defod Medal y Cymry Cymraeg o Ddewis, llywydd dydd Mawrth fydd Beverly Lennon.
Gyda'i theulu yn hanu o Jamaica, ganed Beverly yn Llundain, a'i magu yn Yr Eidal a'r Alban.
Penderfynodd ddysgu Cymraeg ar ôl dod i fyw yn Y Fro yn 1989 "achos bod Cymraeg o'm cwmpas i."
Yn fyfyrwraig aeddfed, dychwelodd i'r ysgol i astudio Cymraeg Ail Iaith TGAU a Lefel A ac erbyn hyn mae'n athrawes Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Cantonian yng Nghaerdydd.
Yn fam i dri o fechgyn dywed ei bod yn mwynhau darllen, cerddoriaeth blues a jazz a choginio.
Dydd Mercher Matthew Rhys, sydd ar fin dechrau ymarfer yn y National Theatre yn Llundain, ydy llywydd dydd Mercher.
Yn frodor o Gaerdydd, bu'n cystadlu'n rheolaidd tra'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Glantaf.
Ym myd actio aeth Matthew o nerth i nerth ers gadael RADA gan berfformio yn The Graduate gyda Kathleen Turner yn ymddangos yn noeth gyferbyn ag ef.
Bydd hon yn Eisteddfod brysur iddo gan ei fod yn feirniad y cyflwyniad theatrig unigol rhwng 14 a 25 oed gyda Sharon Morgan.
Dydd Iau Ers pymtheng mlynedd bu Geraint Evans, Llywydd dydd Iau, yn weithgar yn yr ymgyrch i sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg yn y Barri.
Dywed i agor Ysgol Bro Morgannwg ddeunaw mis yn ôl fod yn gam anhygoel ymlaen yn hanes Cymreictod y Fro.
"Mae'r ysgol wedi cael effaith aruthrol ar Gymreictod yn y dref yn barod," meddai, "ac mae'n gyd-ddigwyddiad pwysig a hanesyddol ein bod yn dathlu hanner can mlynedd o addysg Gymraeg yn y Fro yr un flwyddyn ac mae'r Steddfod yn dod i'r ardal."
Mae Geraint yn gyfarwyddwr rheoli siop Dan Evans yn Y Barri, siop a sefydlwyd gan ei dad-cu yn 1905.
Ei daid oedd y gweinidog cyntaf ar gapel Cymraeg Y Barri.
Mae Elin, merch Geraint, yn cymryd rhan yn We-Hei!, sioe uwchradd y Steddfod, a Dewi, ei fab, yn cystadlu gydag Ysgol Bro Morgannwg. Meddai Geraint.
Dydd Gwener Wedi ei fagu yn ardal Caerdydd ac yn gyn ddisgybl yn Ysgolion Tonyrefail, Bryn Taf a Llanhari, mae Guto Harri, llywydd dydd Gwener, yn ohebydd gwleidyddol gyda'r BBC yn San Steffan.
Mae ganddo ef a'i briod, Shireen, efeilliaid pum mis oed, Calum Dewi a Benjamin Aled.
Bu'n aelod brwd o'r Urdd, gan gipio'r drydedd wobr yn y Fedal Ddrama, perfformio deialog ar y llwyfan ac ennill gwobr newyddiaduraeth Jennie Eirian.
"Hoffwn ddymuno'n dda iawn i'r Urdd yn y brifddinas, ble mae cenedlaethau o blant dros y blynyddoedd wedi magu brwdfrydedd at y Gymraeg a phethau gorau Cymru drwy gyfrwng y mudiad," meddai.
Dydd Sadwrn Ddiwrnod Defod Tlws y Cerddor, un sydd wedi gwisgo'r tlws hwnnw deirgwaith a ddewiswyd yn llywydd y dydd.
Enillodd Ceiri Torjussen y fedal yn eisteddfod Preseli yn 1995, Islwyn, 1996 a Llyn ac Eifionydd, 1998.
Yn hanu o Gaerdydd, ac yn gynddisgybl yn Ysgol Gynradd Gymraeg Melin Gruffydd, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf a Choleg Chweched Dosbarth Dewi Sant astudiodd ym Mhrifysgol Efrog ac ar ôl graddio treuliodd ddwy flynedd yn astudio am radd MA mewn cyfansoddi cerddoriaeth ym Mhrifysgol Califfornia, Los Angeles, lle mae'n awr yn gweithio.
Llywydd absennol fydd Ceiri, fodd bynnag, wedi gwneud trefniadau i deithio adref i'r Eisteddfod y llynedd, ond oherwydd galwadau gwaith ni fydd yn bresennol eleni.

|