| Cyflwynwyd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch 2006 i Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Heini Gruffudd, gan cynrychiolwyr o Eglwys Bethel, Sgeti (rhoddwyr y Gadair) mewn seremoni arbennig yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe ar 23 Mai. Dyluniwyd y Gadair gan Elonwy (Lon) Riley o Lansawel ger Llandeilo, dylunydd gyda dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad yn y maes. Mae ar hyn o bryd yn darlithio ar ddylunio mewn colegau yn ne a gorllewin Cymru. Nodweddion daearyddol unigryw Abertawe a'r Cylch a ddylanwadodd ar gynllun Lon ar gyfer y Gadair: "Roeddwn am ddal yr agweddau gweledol hyn yn fy nghynllun a thrwy ddefnyddio deunyddiau sydd a chysylltiadau diwydiannol a diwylliannol gydag Abertawe a'r Cylch, dwi wedi llwyddo i ail-greu'r tirwedd dramatig yma. Mae copr yn cynrychioli'r cysylltiad hanesyddol, tra bod gan y gwydr ddolen fwy diweddar gan fod canolfan Genedlaethol Gwydr Lliw Pensaerniol wedi'i lleoli yn Athrofa Abertawe." Wedi ymchwilio a braslunio diddiwedd, daeth Lon o hyd i sail berffaith i'w chynllun, gan ychwanegu'r syniad fod y paneli derw a ffurfia gefn y gadair yn efelychu llyfr agored, gan gyfeirio at lenyddiaeth a Dylan Thomas yn arbennig. Gwyddai bod yn rhaid i'r Gadair fod yn gain, yn seremoniiol ac yn fawreddog, yn ogystal â chydweddu â thu fewn i gartref y bardd llwyddiannus. Daeth ffurf y Gadair o ddylanwad George Heppelwhite, gwneuthurwr cadeiriau o'r 18fed ganrif. Dwylo dawnus Tony Graham a Paul Norrington bu' n gyfrifol am grefftio'r Gadair, ac fe'i gwnaethpwyd yn safle Rhydaman, Coleg Sir Gâr. Dewiswyd y pren gyda gofal mawr ar gyfer pob rhan o'r Gadair, er mwyn amlygu'r graen ar ei orau. Gwnaethpwyd y panel gwydr gan Rodney Bender a Lon ei hun a fu' n gyfrifol am y gwaith cerfio. Yn ô1 Lon: "Mae wedi bod yn bleser ac yn fraint cael cynllunio'r Gadair Farddol."
 |