
Y Coridor Ansicrwydd
Y Coridor Ansicrwydd
Does unman yn debyg i gartref
21 November 2025
45 minutes
Available for 316 days
Ar noson berffaith yng Nghaerdydd, gwelwyd perfformiad syfrdanol gan Gymru wrth sgorio saith gol heibio Gogledd Macedonia er mwyn gorffen yn ail yn y grŵp rhagbrofol. A'r wobr am wneud hynny ydi gêm gartref yn erbyn Bosnia a Herzegovina yn rownd gynderfynol y gemau ail-gyfle, a'r sicrwydd o gêm gartref yn y rownd derfynol os nawn nhw ennill.
Gan fod Owain ar ei wyliau, cyn gapten Cymru Kath Morgan sy'n camu mewn i drafod gobeithion tîm Craig Bellamy gyda Mal a Dyl.
