10 December 2025

45 minutes

Available for 333 days

Oes gan y criw unrhyw gydymdeimlad tuag at Mo Salah yn dilyn ei gyfweliad tanllyd yn erbyn rheolwr Lerpwl Arne Slot? Ydi blaenwr anhapus Lerpwl wedi torri'r rheol euraidd drwy beidio cadw ei gwynion o fewn yr ystafell newid? Go brin fod Malcolm wedi pwdu fel hyn pan gafodd o ei adael allan o'r tîm...

Dim ond clod sydd i Harry Wilson yn dilyn gôl wych arall i Fulham dros y penwythnos, gydag ambell gôl arall hefyd yn dal sylw.