Main content

Does unman yn debyg i gartref

Dylan Griffiths, Malcolm Allen a Kath Morgan sy'n ymateb i her nesaf Cymru yn erbyn Bosnia a Herzegovina yn rownd gynderfynol gemau ail-gyfle er mwyn cyrraedd Cwpan y Byd 2026.

Ar noson berffaith yng Nghaerdydd, gwelwyd perfformiad syfrdanol gan Gymru wrth sgorio saith gol heibio Gogledd Macedonia er mwyn gorffen yn ail yn y grŵp rhagbrofol. A'r wobr am wneud hynny ydi gêm gartref yn erbyn Bosnia a Herzegovina yn rownd gynderfynol y gemau ail-gyfle, a'r sicrwydd o gêm gartref yn y rownd derfynol os nawn nhw ennill.

Gan fod Owain ar ei wyliau, cyn gapten Cymru Kath Morgan sy'n camu mewn i drafod gobeithion tîm Craig Bellamy gyda Mal a Dyl.

Release date:

10 months left to listen

45 minutes

Podcast