BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Fan a'r Lle
Llun o cerddwyrTaith Henry Vaughan
Mawrth 2008
Gwybodaeth am daith Henry Vaughan gan John Meurig.

Taith sydd wedi cael ei hagor yn gymharol ddiweddar yw "Taith Henry Vaughan", yn Nhalybont-ar-Wysg. Adnabyddid Henry Vaughan fel "Y Silwriad", ac fel "Alarch yr Wysg". Roedd yn ŵr amryddawn ac yn hyddysg mewn nifer o feysydd, ond fel bardd y cafodd enwogrwydd, a bu'n ddylanwad ar nifer o feirdd diweddarach, megis Wordsworth.

Mae Llwybr Henry Vaughan yn daith o ryw 4KM, gyda phigion o farddoniaeth Henry a'i frawd, Thomas, ar byst yma ac acw ar y daith. Y logo a ddewiswyd i nodi'r daith yw llun o alarch wen ar gefndir glas, gyda'r geiriau "Llwybr Vaughan" o gwmpas yr ymyl.

Y man mwyaf cyfleus i ni gychwyn ar y daith yw Neuadd Henderson ym mhentref Talybont, gan fod yno ddigon o le i barcio. Cerddwch allan o'r maes parcio i'r ffordd sy'n mynd drwy'r pentref . I'r chwith ar hyd y ffordd am ryw 50 llath, ac yna i'r dde am bont y gamlas, lle mae'r arwydd i gronfa ddŵr Talybont. Cyn y bont, cymryd llwybr y gamlas i'r chwith, ac yn fuan fe ddewch at hysbysfwrdd sy'n rhoi tipyn o hanes Henry Vaughan, a hefyd map o'r daith. Ymlaen ar hyd y llwybr, a chyn dod at bont y gamlas, ger tafarn y "White Hart", gadael y llwybr ger y polyn sy'n nodi'r daith. Ond yn gyntaf, codwch y lifer sydd yn y polyn, ac fe ddaw dyfyniad allan o un o gerddi Henry Vaughan i'r amlwg, ynghyd â chyfieithiad Cymraeg.

Braf gweld fod yr iaith yn gywir ac yn cael y parch dyladwy. Mae dyfyniadau eraill i'w cael mewn polion o'r fath ar hyd y daith. Croesi'r bont dros y gamlas a dilyn y llwybr i fyny, gan ymuno â hen dramffordd Brynoer ar ôl croesi hen bont y rheilffordd. Yn fuan, ar y dde i'r llwybr, fe ddowch at Ardd Vaughan, gyda hysbysfwrdd arall yn nodi rhai o'r llysiau a ddefnyddid gan Henry Vaughan i wneud meddyginiaethau. Mae rhai o'r llysiau hyn hefyd wedi eu plannu ger yr hysbysfwrdd. Mae'r ardd yn lle hyfryd a thawel i eistedd neu i gael picnic. Bydd dyffryn hyfryd Caerfannell ar y dde i chi. Cyn hir fe ddowch at bolyn arall, ger arwyddbost a sedd. Dyma'r dyfyniad a geir: "Na ddilyn y floedd mwyach: Mae ffordd hynafol a daenwyd a blodau, a hapusrwydd a ffresni Mai."

Gadael y dramffordd yma, mynd dros y gamfa ar y dde a dilyn y llwybr a'r arwyddion i lawr nes cyrraedd y ion ger yr hen reiiffordd. I'r chwith yma, ac ar ôl ychydig lathenni, mynd drwy'r glwyd fetel ar y dde. Mynd o dan yr hen bont a gwyro i'r chwith. Drwy'r glwyd fetel ac ymlaen. Mewn llannerch fechan lle mae arwyddbost, ewch i lawr i'r dde at yr afon, lle mae sedd a pholyn arall. Dilynwch y llwybr i lawr at y bompren. Croesi'r bompren a gwyro i'r dde. Dilyn nant Caerfannell i lawr at y polyn a'r glwyd nesaf, lle mae dyfyniad addas iawn: "Yma mae ffynhonnau'n llifo, mae adar yn canu, anifeiliaid yn bwydo, pysgod yn neidio, a'r ddaear yn ddi-syfl."

Ymlaen yn syth drwy gae gwastad, gyda glan yr afon. Drwy glwyd arall ac ymlaen nes dod at arwyddbost sy'n eich cyfeirio i ffwrdd o'r nant ac at y tŷ cerrig a welwch draw ar y chwith. Dros y gamfa garreg i'r ffordd. Croesi'r bont a throi'n union i'r chwith, cyn y tŷ, dros gamfa garreg arall. Ymlaen ger y nant fechan, a dod allan i'r ffordd. Troi i'r dde. Mynd heibio i Cui Park ar y chwith. Yn fuan, gyferbyn â'r tŷ bychan, deniadol, dilynwch yr arwyddbost i mewn i'r cae. Croesi tri chae a dod allan i'r ffordd ger y rhes bythynnod. I'r dde ar hyd y ffordd. I'r chwith yn syth ar ôl croesi'r gamlas ac i'r chwith eto at lwybr y gamlas, ger polyn arall. Gadael y llwybr ger y bont-godi a mynd yn ôl i'r maes parcio. Mae taflen bwrpasol gyda map o'r daith ar gael yn y ganolfan ymwelwyr yn Aberhonddu.

  • Mwy am Henry Vaughan

  • 0
    C20
    Pobol y Cwm0
    Learn Welsh0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy