Gadael y "Coach and Horses" i gyfeiriad Aberhonddu, a chroesi'r bont. Mynd drwy'r glwyd bren ar y chwith a throi i'r dde ar lwybr y gamlas. Wrth y llifddor cyntaf (Rhif 65), croeswch y bompren dros y gamlas. Dilynwch y llwybr i fyny drwy'r coed - mae wedi ei nodi ag arwyddion "Ffordd y Bannau". Dros gamfa ac ymlaen drwy ragor o goed. Dros gamfa arall ac i mewn i gae. Bydd y gamfa nesaf i'w gweld o'ch blaen, a bydd Tor y Foel i'w weld ar y dde i chi wrth i chi groesi'r cae. O hyn ymlaen mae'r llwybr a'r camfeydd yn hawdd eu dilyn. Byddwch yn croesi lôn fferm darmac wrth ddringo. O'r diwedd fe ddewch allan ar ffordd darmac weddol gul, ar ôl mynd heibio i
ffermdy ar y chwith. Croesi'r ffordd a mynd drwy'r glwyd bren o'ch blaen. Rydych chi'n awr ar y llwybr sy'n arwain i gopa Tor y Foel. Ond mynydd twyllodrus yw hwn, a phan fyddwch yn meddwl eich bod ar fin cyrraedd y copa, bydd copa arall yn ymddangos o'ch baen. Wrth ddringo, mae'n werth edrych yn ôl yn achlysurol gan fod Mynydd Pen y Fal a Chrug Hywel yn union to cefn i chi, a dyffryn hyfryd Wysg i'w weld yn ei holl ogoniant. Ar y chwith i chi drwy'r amser mae cwm cysgodol Dyffryn Crawnon. O gyrraedd y copa, mae gwledd yn eich aros ar ddiwrnod clir ac mae'r golygfeydd i bob cyfeiriad yn fendigedig. O'r copa daliwch i fynd ymlaen i'r un cyfeiriad, ac fe fyddwch yn disgyn i lawr nes cyrraedd y ffordd, gyda chronfa ddŵr Talybont oddi tanoch. I'r dde a dilyn y ffordd yn ôl nes cyrraedd grid gwartheg. Cyn y grid, trowch i'r dde a dilyn y llwybr amlwg, nes dod at lwybr yn fforchio i'r chwith, ac yn fuan wedyn glwyd haearn. Croesi'r gamfa ger y glwyd ac anelu am y coed pinwydd o'ch blaen, gan ddisgyn yn raddol wrth i chi groesi'r llechwedd. Cyrraedd y pinwydd a mynd drwy'r glwyd. Drwy'r coed a'r cae gan ddisgyn yn raddol i gornel pellaf isaf y cae, lle mae lôn garegog a chlwyd. Dilyn y llwybr a'r berth sydd ar y chwith i chi nes dod at glwyd bren. Drwy'r glwyd a chroesi'r cae at y coed sydd o'ch blaen, gan ddisgyn i gornel pellaf isaf y cae, lle mae clwyd arall yn arwain i'r coed. Drwy'r glwyd a'r coed a chroesi cae arall. Drwy'r glwyd ym mhen draw'r cae a dal ymlaen ar ddarn o lwybr sy'n tyfu drosodd yn arw yn ystod yr haf. Ond nid yw'r darn hwn yn hir iawn, ac ar ôl mynd drwy glwyd arall byddwch yn dod allan ar lôn y goedwig.
I'r chwith yma, a chroesi pont y gamlas. Yn syth ar ôl croesi'r bont, mynd dros y gamfa ar y dde i ymuno â llwybr y gamlas. Dilyn y llwybr yn ôl i Langynidr. Amser: tua 3.5 awr. Mapiau: O.S. Outdoor Leisure - rhifau 11 a 13 Gyda John MeurigBle ydych chi'n hoffi mynd i gerdded yn yr ardal hon? Dwedwch wrthon ni yma!
 |