| Yn y cystadleuthau dan 6 oed i blant plwyf Senni, rhwng Cefnfedw Ganol a Brychgoed oedd y cystadlu. Amlygodd merched Felin Senni, Rhoslyn ac Elise Norgate eu doniau dro ar ôl tro yn y canu. Daeth Elin Havard a Teleri Thomas i'r brig yn eu tro a'r chwiorydd, Nia a Ffion yn amlwg yn dilyn traddodiad amryddawn teulu Llwynrhys. Yng Nghefnfedw Fawr y mae arlunwyr y cwm, sef Brenig ac Eifion Phillips. Enillodd Sophie Jones Gwpan Her Mr a Mrs Owain Price, Maesydd i'r cystadleuydd cerdd mwyaf addawol dan 16. Braf oedd cael cwmni tri theulu o Lanspyddid a'u canu a'u hadrodd yn cyfoethogi'r cystadlu. Diolch a llongyfarchiadau i Cari ac Elin Morris, Cwm Uchaf, Huw ac Isobel Thomas, Penwern ac i Martha a Glesni Powell. Teithiodd teulu amryddawn Radcliffe o Bencader i gystadlu ar y canu, yr adrodd a'r offerynnol gan fwynhau cryn lwyddiant ym mhob adran. Beirniaid y dydd oedd Mair Wyn o Rydaman a Delyth Morgans o Aberystwyth. Daeth wynebau cyfarwydd a newydd i'r llwyfan, rhai wedi teithio o bellter i gystadlu. Arthur Wyn o Ben-y-Groes, Caernarfon a'n swynodd ni ar yr emyn dôn dros 65 ac Ann Watkins ar yr gân werin a'r emyn dôn dan 65. Enillwyd yr Her Adroddiad, gan y meistr, Cefnfab; a'r Her Unawd gan Guyathrie o Northampton. yn cipio'r wobr gyntaf. Tri fu'n cystadlu ar yr Her Unawd ond y tri o safon aruthrol. O Northampton daw'r enillydd, a Heulwen Parry Williams o Rayadr enillodd yr Adrodd Digri. Yng Ngefnfedw Ganol y ganwyd llywydd y prynhawn, Mrs Mary Morris. Symud i'r cwm ryw 25 mlynedd yn ôl wnaeth llywydd yr hwyr, Professor Christopher Spry i Dan Graig, Senni. Bu canmolaeth mawr i erthyglau Mr Jonathan Davies ar hanes leol. Enillodd Mr John Meurig Edwards ar y delyneg, y stori fer a'r penillion digri. Clywson yn ddiweddar bod pryderon ynghylch dyfodol yr eisteddfodau bychain wedi i'r grant i dalu cyflog dau swyddog ddiflannu. Rhaid cofio mai ar lwyfannau yr eisteddfodau yma y dechreuodd Shan Cothi, Bryn Terfel a thalent lleol megis Arwel Price a Phillip Watkins. Wedi gweld cyfoeth y talent sydd yn y cylch hwn rhaid gofyn, oni bai am yr eisteddfod leol, o ble y daw y Bryn Terfel nesaf?
 |