Bwriad Clwb Cerdded Menter Brycheiniog yw rhoi cyfle i bobl sy'n dysgu Cymraeg ac sy'n hoffi cerdded, ymarfer yr iaith ymysg dysgwyr eraill a Chymry Cymraeg. Hwn oedd y tro cyntaf i'r clwb gwrdd, ac yn anffodus dim ond dau o ddysgwyr ddaeth ar y daith. Nid oedd hyn yn sioc fawr oherwydd y gwynt a'r glaw! Er gwaethaf hyn cafwyd taith hamddenol iawn i fyny i gopa'r Cribarth a
dangosodd Arwel y gwahanol briodweddau o'r mynydd gyda'r gwahanol haenau yn y graig, a llwybr yr hen ffordd o Aberhonddu i Ystradgynlais. Soniodd hefyd am yr ardaloedd mwyaf peryglus ar hyd yr hen ffordd yn yr hen amser gyda gwahanol ddihirod yn barod i ddwyn eiddo ac arian oddi ar deithwyr fyddai'n pasio trwy'r ardal! Mae Menter Brycheiniog yn gobeithio trefnu taith gerdded arall erbyn diwedd mis Medi. Os oes diddordeb gyda chi ddod at y daith nesaf, cysylltwch gyda'r Fenter. Gallwch gysylltu gyda Menter Brycheiniog drwy ffonio 01639 844513 neu drwy e-bostio menterb@powys.gov.uk
 |