"Rwyf wedi bod yn ffodus to hwnt o gael treulio pedair wythnos yn Fforest Law yr Afon Amazon, un o'r lleoedd mwyaf ar y ddaear, nid yn unig o ran maint ond hefyd o ran amrywiaeth.
Roedd hi'n daith pum niwrnod mewn cwch i lawr yr Amazon ac afon Yavari i gyrraedd yr ardal gadwraeth ble roeddem i wneud ein gwaith ymchwil ar nifer o anifeiliaid.
Roedd y prosiectau yn cynnwys gwaith ymchwil ar y Mwnciod Uakari Coch, ac yn wir sefydlwyd Gwarchodfa Lago Preto, ardal 10,000 hectar yn un o ardaloedd mwyaf anghysbell ac unig yr Amazon, i gyflawni'r gwaith.
Roedd nifer o brosiectau eraill hefyd ar droed, yn cynnwys gwaith ymchwil ar lyffantod, pysgod, caimanod (math o grocodeil), adar y fforest, a'r dolffiniaid dŵr croyw.
Treuliais lawer o amser ynghlwm wrth brosiect y llyffantod ac roedd yr arweinydd yn wych ar ddod o hyd i nadroedd, tarantwlaod, criciaid mawr a gecoaid yn ogystal â llyffantod o bob maint.
Digwyddodd rhywbeth anhygoel a chyffrous i mi wrth weithio ar y prosiect yma. Daeth yr arbenigwr ar lyffantod ar draws math newydd o lyffant dart gwenwynig a'r enw a roddwyd i'r llyffant newydd hwn oedd Ranitomeya Yavari.
Roedd yn fraint ac anrhydedd cael bod yn rhan o'r darganfyddiad pwysig hwn.
Ni fyddaf byth yn anghofio'r profiadau lu a gefais wrth ymweld ag un o leoedd mwyaf anghysbell a phrydferth y Blaned hon.
Rwyf wedi gweld a chyffwrdd creaduriaid fel y tarantwlaod mawr, blewog, y caimanod, llyffantod bach ac enfawr, y neidr fwyaf gwenwynig yn y fforest, y Fur-de-lance, a'r Piranha gyda'i ddannedd miniog.
Mae'r gwaith o warchod y nifer helaeth o rywogaethau a chynnal ffrwythlondeb ac amrywioldeb y fforest law drofannol yn hynod o bwysig.
Mae digoedwigo yn broblem sydd ar gynnydd yn yr Amazon a dylid gwneud mwy i ddiogelu'r fforest er mwyn sicrhau Daear iach a bioamrywiol am ganrifoedd i ddod."
Myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Marc Williams. Mae ei gartref ym Mhantygelynen, Cwm Camlais.