| Prosiect sy'n galluogi disgyblion Cyfnod Allweddol 2 a 3 i gydweithio gyda'i gilydd. Gwahoddir beirdd a llenorion enwog i'w plith, gan eu hannog i greu llenyddiaeth a'u hysbrydoli drwy gyfrwng y Gymraeg. Drwy'r prosiectau cryfheir ddyfodol yr iaith yn yr ardal, ond yn bwysicach fe ddethlir ein hanes lleol. Dan law y Prifeirdd Iwan Llwyd a Myrddin ap Dafydd, dair blynedd yn ôl, cyfansoddwyd 12 cerdd yn seiliedig ar y Barcud Coch, yr aderyn prin sydd bellach wedi ail-ymsefydlu yn yr ardal, delwedd debyg iawn ond ar raddfa arafach i'r iaith Gymraeg. Llwyddwyd llynedd, gyda chymorth ffotograffydd lleol, Liz Flemming-Williams, i gynhyrchu llyfryn sy'n ddathliad o'r ardal a'r Gymraeg. Fis Mawrth eleni, rhyddhawyd CD sy'n seiliedig ar y farddoniaeth gyda chyfansoddiad cerddorol un o'n cyn ddisgyblion bellach. Lleisiau lleol yn llefaru yn eu gweithdai sydd yma. Prosiect llynedd oedd Cwm Elan, yng nghwmni'r llenor o Feirionydd, Bethan Gwanas, a'r ddau frawd o'r band Brigyn, Ynyr ac Eurig Roberts. Llwyddwyd i greu llu o farddoniaeth a rhyddiaith yn seiliedig ar eu profiad yn y Cwm ac yn ogystal yr hanes, gan y cafwyd y llynedd, gan mlynedd ers agor yr argau cyntaf yn y Cwm. Bellach mae'r gwaith hwn ar DVD. Yn ogystal ceir profiad ac atgofion y gwesteion a'r disgyblion ar ein diwrnod yn y Cwm, a thaith drwy'r tymhorau drwy luniau rhyfeddol Liz Flemming-Williams. Os hoffech dderbyn copi o'r eitemau uchod, neu dderbyn unrhyw wybodaeth am y prosiectau blynyddol hyn, cysylltwch ag Olwen Edwards, Cydlynydd Cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt. Prisiau'r Llyfrau: Cri'r Barcud Coch £4; CD £4; DVD Cwm Elan £5. Olwen Edwards Cydlynydd Cyfrwng Cymraeg Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt
 |