Fe ddaeth yn ddisgybl i Ysgol Penlan yn niwedd y saithdegau, wedi treulio rhai blynyddoedd mewn ysgol breswyl yn sir Amwythig. Bu Michael Heseltine yntau, yn ddisgybl yn yr ysgol honno. Syndod meddwl bod dau gyw, a fu yn yr un nyth, wedi mynd i 'ganu cân' mor wahanol!
Pan ddaeth i Ysgol Penlan, roedd gan Twm afael sicr ar ein hiaith a hefyd ar reolau'r Canu Caeth. Cyn hyn, doedd e ddim wedi cael gwers ffurfiol yn y Gymraeg, na chlywed yr iaith ar yr aelwyd gartref. Arferai dreulio'i wyliau ysgol ym mroydd Llŷn ac Eifionydd, yn ymgyfathrachu â Wil Sam a gwŷr eraill o dueddfryd tebyg.
Bu iddynt feithrin ynddo ymwybyddiaeth glodwiw o'n treftadaeth. Bu'r gynghanedd yn rhan anatod o'i fachgendod. Ymhyfrydai ynddi. Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn Cerdd Dafod, ac roedd gwaith y Cywyddwyr, y rhan honno o faes llafur Cymraeg y chweched dosbarth sy'n atgas gan y mwyafrif o ddisgyblion, at ei ddant yn llwyr.
Gallai gynganeddu'n gywir iawn, ac fe fu'n aelod cyson a dim Beirdd Aberhonddu oedd yn cystadlu ar y Talwrn. Roedd yn ddwy ar bymtheg oed ar y pryd. Eisoes, fe gyhoeddwyd dwy gyfrol o'i farddoniaeth. Mae rhai o'i gerddi wedi cael eu cyfieithu i ieithoedd eraill gan gynnwys y Bwyleg. Mae adran ym Mhrifysgol Lublin, yng ngwlad Pwyl, yn ymddiddori yn ein hiaith a'n llenyddiaeth, a bu Aled, mab Handel Jones sy'n gyfrannwr i'r Papur hwn, yn ddarlithydd yn yr adran honno, am gyfnod.
Erbyn hyn, fe gafwyd cyfle i fwrw golwg dros yr awdl fuddugol. Mae'n wahanol iawn i'r mwyafrif a gafwyd yn y Genedlaethol dros y blynyddoedd. Fel rheol, cyfresi o gameos caboledig yw'r rhain - er bod i awdl Twm Morys hithau, ei darluniau coeth, mae iddi hefyd rhyw ddwyster myfyrgar, a hwnnw, fel y dywed y tri beirniad, wedi ei wau yn gelfydd a gwmpas stori y seithwyr yn y neuadd, yng Ngwales, yn Ail Gainc y Mabinogi.
Ond, nid bardd dwys, difrifol, yn unig mohono, o bell ffordd. Mae i delyn Twm Morys sawl tant. Yn ogystal â cherddi meddylgar, ceir yn ei ddwy gyfrol lawer o hiwmor direidus a Iliaws a bethau gogleisiol fel y cwpled yma: "Os am gawl, os am gŵlash... Mistêc yw tyfu mwstash!"
Rydym yn ymfalchio yn ei orchest ac yn edrych ymlaen at ragor o'i waith i'w ddarllen. Gobeithio y cawn ei weld a'i glywed yn gyson ar y cyfryngau.
(Yn groes i honiad yr Archdderwydd ym Meifod, roedd mwy nag un disgybl yn astudio'r Gymraeg yn y ChwechedDosbarth, yr un pryd â Twm Morys. Roedd dwy ferch o'r cylch, sef Ydwena Davies (Jones nawr) ac Ann Bevan yn astudio'r Gymraeg.)
Arwyn Evans, Cynghordy