Cynhaliwyd yr Eisteddfod eleni ar 27 Medi, ac fel arfer, cafwyd tair sesiwn. Bore
Plant lleol a gystadlodd yn y bore a braf oedd gwle cynifer ohonynt yn ymddangos ar y llwyfan, pob un yn gwneud ri orau glas. Diolch i'r athrawon fu'n hyfforddi. Llongyfarchiadau i Lauren Price ar ennill cwpan am y cystadleuydd mwyaf cerddorol yn sesiwn y bore ac Alice Cox am mai hi, ym marn y beirniaid, oedd yn haeddu ennill cwpan Dr Delyth Hurley am y cystadleuydd mwyaf addawol. Llywydd y bore oedd y Cynghorydd Rosemary Stephenson. Dysgwraig yw hi a braf oedd ei chlywed yn areithio yn Gymraeg a Saesneg. Prynhawn Tro'r plant o ddalgylch ehangach oedd hi yn ystod y prynhawn a chafwyd sesiwn bleserus gyda Cathryn Rees o Lanymddyfri yn derbyn canmoliaeth arbennig am yr unawd ffidil a berfformiodd mor hyfgryd. Hwyr Cafwyd cystadlu brwd mewn nifer o gystadlaethau yn yr hwyr gyda Jennifer Drew Parry o Aberhonddu yn cipio'r wobr cyntaf yn yr Her Unawd tra enillodd Nia Wyn Jones, Tregaronm yr Her Adroddiad. Enillydd y Gadair oedd Gwyndaf Roberts, Llanfair Caereinion. Gosodwyd 'Y Bannau' fel teitl i'r englyn ac Arwyn Evans, Cynghordy, oedd yn fuddugol. Fel arfer, cafodd John Meurig Edwards dipyn o lwyddiant llenyddol - limrig, stori fer ac emyn gwasanaeth diolchgarwch ymhlith ei wobrau cyntaf:'Emyn hyfryd iawn a gobeithio gwelir canu arno' oedd sylw'r beirniad am yr emyn. Beth amdani tybed?
Llywydd yr hwyr oedd John Thomas, Castell Newydd Emlyn, cyn reolwr banc Nat West Llanwrtyd a chyn Drysorydd Eisteddfod Llanwrtyd. Tynnodd sylw'r gynulleidfa at boster yn ei feddiant yn cyhoeddi Eisteddfod Capel Moria, Abergwesyn 1908. Diddorol tu hwnt. Y beirniad cerdd oedd Mr Terrance Lloyd, Llandudoch; Aled Gwyn, Caerdydd oedd y Beirniad Llenyddiaith a Gareth Wyn Thomas, Capel Hendre oedd y Cyfeilydd.
 |