Cawson ni amser gwych yn Eurodisney gyda Miss Jones. Roedd yna bump yn mynd o Aberhonddu. Bethan, Ella, Rhiannon, Rhianwen ac Angharad. Dyma hanes y daith. Ar ddydd Sul, cawson ni daith hir i Ffrainc. Gadawon ni Aberhonddu am 3.45 yn y bore (cynnar iawn, iawn). Ar y bws pigon ni lan Llanfyllin a'r
Drenewydd a theithion ni i'r Eurotunnel. Cawson ni un stop ar y ffordd a chawson ni rywbeth i frecwast a phrynu rhywbeth yn y siop. Bant a ni eto! Cyrhaeddon ni'r Eurotunnel ac aethon ni'n syth ar y trên. Roedd e'r tro cyntaf i lawer o bobl deithio trwy'r Eurotunnel. Roedden ni yn Ffrainc a chyn hir roedden ni yn Calais. Ar y ffordd i'r gwesty, gwelon ni Gastell Disney. Roedd pawb yn llawn cyffro! Cyrhaeddon ni tu allan i'r gwesty ac ar ôl i Dafydd (o'r Urdd) ddweud y rheolau, aethon ni i mewn. Cawson ni allwedd ein drws ac aethon ni lan i'n stafell. Roedd pawb wedi dadbacio felly cawson ni swper. Cawson ni amser hamdden am weddill y nos. Gwely am 11.00 o'r gloch.
Ar ddydd Llun, cawson ni frecwast ac aethon ni i'r parc Disney. Dangosodd y staff y lle ddylen ni ddod petai problem gyda ni ac wedyn aethon ni o gwmpas mewn grwpiau o dri. Gwnaethon ni gyfarfod ddwy waith yn ystod y dydd i siecio fod popeth yn iawn. Roedd llawer o reidiau yna fel `Indiana Jones' a `Space Mission 2'. Gwelon ni Mickey Mouse a'i ffrindiau a chael eu llofnodion. Roedd rhai pobl wedi gweld Mickey yn y pared. Am 5.45 y.h. aethon ni ar y bws o gwmpas Paris. Gwelon ni'r `Eiffel Tower' a 'Cleopatra's Needle' cyn mynd ar y Seine am daith gwch. Gwelon ni lawer o adeiladau enwog. Aethon ni nôl i'r gwesty a syth lan i'n hystafell. Amser gwely am 11.00. Ar ddydd Mawrth, cawson ni frecwast ac aethon ni i'r Disney Studios. Eto, dangoson nhw lle dylen ni ddod petai problem ac wedyn aethon ni o gwmpas yn yr un grwpiau. Aeth bron i bawb yn syth i'r sioe styntiau. Roedd hi'n wych! Roedd bron i bawb wedi mynd ar y Rock'n'Rollercoaster. Am 6.00 aethon ni i Sioe Buffalo Bill. Roedd e'n ardderchog!!! Roedd llawer o geffylau a thua 10 byffalo go iawn!! Aethon ni nôl i'r gwesty wedyn. Gwely! Ar Ddydd Mercher, roedd e i gyd drosodd. Doedd neb eisiau gadael! Aethon ni ar y bws a dechreuon ni adael Ffrainc. Ar ôl tua hanner awr roedden ni ar y Eurotunnel. Roedden ni nôl yn Lloegr a chyn bo hir yng Nghymru. Stopion ni yn y gwasanaethau am dri chwarter awr ac wedyn nôl ar y bws. Ar ôl tipyn cyrhaeddon ni Y Drenewydd ac wedyn Llanfyllin ac ar ôl dwy awr arall roedden ni nôl yn Aberhonddu. Ar y bws gwelon ni tua pump ffilm. Yr un orau oedd Grease achos roedd pawb yn canu ac yn dawnsio. Roedden ni wedi cael amser gwych. Roedden ni wedi gweld yr Eiffel Tower, wedi mynd am daith cwch ar y Seine. Yn y parc roedden ni wedi gweld dau barêd, sioe styntiau, wedi mynd ar lawer o reidiau a gwneud ffrindiau newydd. Roedd yr holl daith yn ardderchog! Gan Rhianwen ac Angharad Jones a Rhiannon Price (8c), Ysgol Uwchradd Aberhonddu.
 |