"Ym mis Mawrth, fe ddechreuon ni ar saethu'r ffilm yma, yn yr Ariannin. I mi, roedd yn brosiect personol lawn gan mai fy ngŵr, Marc (Evans), oedd y cyfarwyddwr, ac e'n rhannol oedd wedi ysgrifennu'r sgript.
Yn cymryd rhan, fel prif actorion, roedd Mathew Rhys a Mathew Gravelle. Roeddwn innau'n cymryd rhan un o brif gymeriadau'r merched. Dyma fraslun o'm stori i, fel menyw o Gymru, sy'n teithio drwy ran o'r Batagonia Gymreig.
Y fenyw arall wedyn, Marta Lubos, actores o'r Ariannin, yn teithio drwy Gymru yr un pryd. Gwen ydw i, yn teithio drwy Dalaith Chubut, o'r dwyrain i'r gorllewin, gyda'm gŵr, Rhys.
Rwy'n meddu ar gyfrinach sy'n creu sefyllfa emosiynol, ac i wneud pethau'n waeth, mae 'gaucho' ifanc (cowboi!), (Mathew Rhys), yn cyd-deithio ar draws y paith.
Taith drom ym mhob ystyr ! ... Ar ôl trafeilio pedwar cant o filltiroedd, dechreuodd y ffilmio ar gyrion dwy dref, sef Esquel a Threvelin (gyda 'v'!) Roedd yn ddechrau Hydref yno a'r tim cynhyrchu am ddechrau, rhag blaen, cyn i'r tywydd gwlyb ddechrau.
Daeth y gwlybaniaeth yn gynt. Roedden ni yng nghysgod mynyddoedd yr Andes ac fe gafon ni ambell i wlychfa ! Yna, daeth yr haul eto. Ar ôl wythnos yno, rhaid oedd trafeilio allan i'r paith a ffilmio ym mhentref anghysbell Dol y Plu (Las Plumas).
Un gwesty oedd yn y lle, gyda phedair stafell wely, a rheiny'n cael eu defnyddio fel rhan o'r set ffilmio!
Bu'n rhaid i'r merched rannu stafelloedd mewn tai yn y pentref, a phedwar deg o ddynion yn cysgu ar fatresi mewn campfa. Roedd angen digon o hiwmor i ddod i delerau a'r sefyllfa honno!
Yr unig le i gwrdd, ar ddiwedd diwrnod o waith, oedd stafell fwyta gyffredin lawn yn y gwesty. Gan ein bod filltiroedd lawer o unman arall, rhaid oedd bwyta pryd nos yn yr un man.
Yr unig ddewis oedd cig wedi ei ffrio a thatws wedi eu 'masho'- yn cael ei ddarparu erbyn deg o'r gloch, bob nos. Dyna arferiad yr Archentwyr. Yn ffodus roedd digon o win coch i'w olchi i lawr.
Ychydig o les gafodd y stumoge, and roedd y croeso'n dwym¬galon iawn. Yno y ffurfiwyd cysylitiad agos rhyngon ni, y Cymry, a'r actorion o'r Archentwyr yn y ffilm.... Daeth diwedd I'rr daith ffilmio yn Nhrelew. Aros yno mewn gwesty enwog, y `Touring Club'.
Adeiladwyd y lle i fodurwyr yn ystod ugeiniau y ganrif ddiwethaf (1920+ ).
Lle hyfryd, henafol, heb ei newid ers y dechreuad. Tywynnodd yr haul arnom drwy'r amser ac roedd machlud yr haul ar ddiwedd pob pnawn, yn y rhan honno o'r byd, yn fendigedig. Lliwiau gwahanol bob dydd.
Daeth ein hamser i ben ym Mhatagonia, ac er i ni orfod trafeilio milltiroedd maith a gweithio am oriau di-derfyn, roedd yr ymdrech yn un o'r profiadau mwyaf cofiadwy i mi. Daethon ni'n ôl i Gymru i gael ein cyfarch gan y Gwanwyn !
Aeth y cyfarwyddwr a'r tin cynhyrchu i weithio eto'n syth, a hynny yng Ngogledd Cymru. Rhaid oedd paratoi at ail ran y ffilm. Gobeithio y bydd yr actorion a'r criw o'r Ariannin, yn cael cymaint o fwynhad ag a gawson ni draw yn y 'Gymru' bell. ... Fydd y ffilm ddim yn cael ei dangos tan y flwyddyn nesaf."