Y tu allan i ddrws y capel ym Mhentre'r felin, ger Pontsenni, fe welwch garreg fedd y Parch. Thomas Elis, "yr hwn a fu yn pregethu gyda'r Trefnyddion Calfinaidd am 32 o flynyddoedd. Efe a fu farw Mawrth 12fed, 1855, yn 62 mlwydd oed."
Hwn oedd y 'Bardd Coch', awdur dros 250 o emynau a gyhoeddwyd ym Merthyr Tudful, flwyddyn ar ôl ei farwolaeth. Er na ellir cyfrif yr emynau hyn ymhlith goreuon ein cenedl, ni ddylem ddiystyru eu hawdur oherwydd mai iddo ef, mae'n debyg, yr ydym yn ddyledus am y gân hyfryd honno, "Dacw 'nghariad i lawr yn y Berllan."
Fe anwyd Thomas Elis ym Mrynteg, ger Cilycwm, yn 1792. Ef oedd yr ieuengaf o chwech o blant. Bu farw ei dad pan oedd yn wyth oed a'i fam yn fuan wedyn. Yn ddeg oed, fe anfonwyd Thomas i Lanwrtyd i ddysgu bod yn deiliwr fel ei dad. Roedd un o'i frodyr eisoes yn gweithio yno, fel dilledydd.
Bedair blynedd yn ddiweddarach, symudodd Thomas i Ferthyr Tudful lle'r oedd brawd arall yn gweithio a chefnodd i raddau ar ei gefndir crefyddol. Ymhen tair blynedd, aeth brawd arall o Lanwrtyd i'w gyrchu'n ôl i Dref y Ffynhonnau.
Tra'n gweithio i'r brawd hwnnw, fe ddysgodd farddoni a chyflwynodd cyfaill gyfansoddiad o'i eiddo i Eisteddfod Aberhonddu, lle y derbyniodd yr urdd enw, 'Bardd Coch Cantref Buallt'. Ar ôl rhai blynyddoedd, ymsefydlodd fel
dilledydd yn Llangamarch, lle y priododd â merch leol, Ann Phillips. Bu hi farw ar ôl saith mlynedd o briodas, yn unig, gan adael dau fab. Bu farw'r hynaf yn ifanc, a daeth y llall yn fasnachwr ym Mhontsenni, ac aelod blaenllaw o gapel Pentre'r felin.
Yn fuan ar ôl priodi roedd Thomas wedi dychwelyd at
grefydd a daeth yn weinidog yn Llangamarch. Yn ystod 24 mlynedd ei weinidogaeth, croesodd Fynydd Epynt tua 2,000 o weithiau wrth ymweld â De a Gogledd Cymru - ynghyd â Bryste a Llundain.
Yn ôl un o'i gyfoedion, roedd yn bregethwr grymus, doniol, a derbyniol iawn. Pregethai'n araf dros bymtheg i ugain munud, yna mynd i hwyl. Ei wallt melyngoch roes iddo ei enw barddol. Dioddefodd o asthma ers pan yn ifanc. Ar fore Llun, y cyntaf o Fehefin 1851, ac yntau'n byw gyda'i fab a'i deulu ym Mhontsenni, fe dorrodd gwythien yn ei ysgyfaint. Trawyd ef yn wael, am yr eildro, yn Chwefror 1854.
Er iddo ddal i bregethu, llesgau fu ei hanes. Mewn cyfarfod misol ym Mhentre'r felin, fe gyhoeddodd ei fod 'yn y dalar, ymron darfod â'r maes gweithio'. Y Sadwrn canlynol, teithiodd tua deuddeng militir drwy rew ac eira, i gyhoeddiad. Drannoeth, marchogodd saith milltir a phregethu deirgwaith. Ar y dydd Llun, fe deithiodd adref am y tro olaf ...
(Mae Handel yn ddiolchgar iawn i'r Dr. Meredydd Evans am rannu gwybodaeth.)
Erthygl gan Handel Jones, Rhandirmwyn