BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Fan a'r Lle
Côr Godre'r AranCyngerdd Côr Godre'r Aran
Ebrill 2003
Gan Glyn Jones, Crai
Edrychwn ymlaen yn eiddgar at gyngerdd arall gan Gôr Godre'r Aran, a hynny ym mis Mehefin. Fel y gwyr llawer o'n darllenwyr, mae'r côr enwog hwn wedi ennill yng nghystadleuaeth y corau meibion yn Llangollen, a nifer o weithiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Godre'r Aran enillodd yn ein eisteddfod ni yn Llanelwedd yn 93, ac mae wedi ennill nifer o weithiau wedi hynny, ac yn ddiweddaraf oll yn Eisteddfod sir Ddinbych a'r Cyffuniau, yn 2001.

Ni fyddant yn cystadlu yn Llangollen nag yn y Genedlaethol ym Maldwyn eleni, oherwydd eu bod yn brysur yn paratoi i fynd ar daith i Awstralia a Seland Newydd yn yr Hydref, lle maent wedi bod nifer o weithiau o'r blaen.

Yn gyntaf, fodd bynnag, maent yn dod yma atom ni, ac mae'n debyg y cawn ragflas o'r cyngherddau y bwriadant gyflwyno i'n cyd - Gymry oddi cartre. Fe welir manylion am y cyngerdd yn rhaglen tymor yr haf Theatr Brycheiniog, pan ddaw allan o'r wasg, ond brysiwn i roi gwybodaeth ymlaen llaw i ddarllenwyr y Papur Bro.

Dydd Sadwrn, Mehefin 14eg, yw'r dyddiad, a'r fan a'r lle fydd Theatr Brycheiniog. Byddwch yno! Gwnewch yn sicr o'ch sedd, ac rwy'n sicr y cewch wledd o ganu, ac ar yr un pryd fe fyddwch yn cefnogi eich Papur Bro! Fe roddir rhagor o fanylion ynglyn â'r cyngerdd yma, yn rhifyn Mai o Y Fan a'r Lle.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy