(Mae Richard yn wyneb cyfarwydd ar y teledu ac ar lwyfan, a gwelwn ef bron bob dydd, yng nghyfres Pobl y Cwm.Fe yw Garry.)
"Mynd a dod fu hanes bywyd yr actor am ganrifoedd. Ers i Twm o'r Nant orymdeithio led-led Cymru yn chware ei anterliwtiau drwy flynyddoedd olaf y ddeunawfed ganrif, hyd at deithiau mwy diweddar y Theatr Genediaethol, natur teithiol, symudol,byw ma's-o-fag yw'r alwedigaeth thespaidd.
Dros gyfnod ychydig yn llai na chwarter canrif, mae fy ngyrfa actio i wedi fy nhywys o Gaerdydd i Gaeredin, ac o Awstralia i'r Iwcrain.
Teithio i weithio yw'r bywyd byr-hoedlog yma, ond bob hyn a hyn, mae'r awydd yn codi i fynd i lefydd mwy anghysbell, ar fy anterliwt bersonol i fy hunan. Un o'r cyfryw deithiau oedd trip i Nepal, ychydig flynyddoedd yn ôl a chael cerdded yng nghanol mynyddoedd mawreddog Annapurna.
Gês i wir flas ar gerdded yr uchelderau ac addewais i mi fy hun, yr adeg honno, y byddwn i'n dychwelyd rhyw dro.
Felly, aed ati i drefnu gwyliau i 'Garry Monk' - trip i Newcastle, dybiais i - a thrip i mi, i le tipyn mwy difyr na Newcastle! Ond ble?
Yr unig beth o'n i'n siwr ohono oedd fy mod i eisiau profi a chael blas ar ddiwylliant gwahanol, rhywle prydferth, ac unigryw. Felly ar ôl imi ymchwilio, dyma fi'n taro'r hoelen ar ei phen...SIKKIM - Shangrila Himalaeaidd yw Sikkim, talaith yng ngogledd-ddwyreiniol yr India.
Ar ei harfordir gyda Nepal, gorwedd mynydd Kanchenjunga, 8598 medr, y drydedd o ran uchder yn y byd. Ar ei harfordir gogleddol mae Tibet - lle tu hwnt o anodd i gyrraedd ato oherwydd y sensitifrwydd milwriaethol, yn ogystal â'r ffaith 'fod mor anghysbell.
Ond, erbyn hyn, roedd y dychymyg yn rhedeg yn wyllt. Roedd yn rhaid i mi fynd yno! Es ati'n frwd, wedi i mi benderfynu ar gyrchfan...trip siopa i Lundain i brynu llond car o gêr newydd...Ond y peth pwysicaf oedd trefnu arweinydd, ac yntau wedyn yn trefnu criw i gludo'r gêr, y bwyd ar tentiau.
Americanwr yw Joel Schone ac mae ganddo dros ugain mlynedd o brofiad fel arweinydd yn yr Himalaya. Gyda gwên gyson a storiau di-ri am hanes gorymdeithiau i'r Himalayas, dros y ganrif ddiwetha' roedd e'n ddewis ysbrydoledig!,
(Bydd Y Fan a'r Lle yn parhau â stori Richard yn rhifyn Gorffennaf. Cofiwch darllen Ymlaen bryd hynny...Gol)