Roedd Ysbyty Tywysog Cymru yng Nghaerdydd wedi cael ei hagor yn swyddogol yn 1918. Yno, roedd help i'w gael i filwyr oedd wedi colli aelodau, fel braich neu goes, yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Llywydd Pwyllgor Gweithredol yr ysbyty oedd neb lIai na'r Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus David Lloyd George, a'i wraig, Dame Margaret, oedd y Cadeirydd. Fe weithiai hi'n galed iawn i godi arian at ddatblygu'r gwaith o helpu'r anabl. Fe drefnodd gystadleuaeth i Gorau Meibion yn yr 'Empire Theatre' yng Nghaerdydd. Roedd y Llywydd, yntau, yn cynnig Cwpan Aur a £100 o wobr i'r côr gorau a £50 i'r ail! Fe greodd hyn gynnwrf mawr. Gweithiai'r corau'n galed er mwyn cael siawns o gael cystadlu. Arweinydd Côr Maesteg ar y pryd oedd y Bnr. Tom Thomas, F.T.S.C. brawd hynaf fy mam. Bu i'w gôr ef gael ei ddewis yn un o'r 16 a ddewisiwyd i gystadlu. Glowyr oedd y mwyafrif o'r aelodau. Roedd côr buddugol yr wyl i gynnal cyngerdd yn Neuadd y Ddinas, noson y gystadleuaeth, ar Ragfyr 4ydd, 1920. Côr Maesteg oedd rhif 14 ar y rhestr, i ganu. Roedd y Theatr yn orlawn! Dyfarnwyd y wobr gyntaf i Gôr Maesteg! Côr Tredegar oedd yn ail, a dim ond un pwynt rhyngddynt. Clywid bonllefau gan wyr Maesteg, mae'n debyg "Da iawn, Maesteg!" ... "Da iawn, yr hen Domi o Blwyf Llangynwyd!" ac meddai Dame Margaret wrth gyflwyno'r Cwpan Aur i Tom Thomas, - "Llongyfarchiadau i chi. Dim ond yng Nghymru, Gwlad y Gân, y gellid cael y fath noson!' Pan ddaeth y trên i orsaf Llangynwyd, roedd fy nhadcu yno i longyfarch ei fab! Fe oedd wedi rhoi'r gwersi cyntaf iddo mewn cerddoriaeth a'i gychwyn ar ei yrfa fel organydd ac arweinydd côr yr hen gapel bach Ileol. ... Doedd gan Ysbyty Tywysog Cymru yn y ddinas ond 64 o welyau a bu ymdrech fawr i gael adeilad mwy a newydd. Ym mhen blynyddoedd fe symudwyd popeth i hen ysbyty Americanaidd yn ardal Rhydlafar, ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gyda 300 o welyau. Felly, fe welwn fod De Cymru wedi arloesi llawer mewn meddyginiaeth orthopedig dros y blynyddoedd, ac yn Rhydlafar, fe gafwyd theatrau modern ac addas. Mae'n hyfryd meddwl fod gan yr hen Gwpan ryw ran arbennig yn natblygiad y math yma o feddyginiaeth. (Dylid dweud fod Alys wedi rhoi'r Cwpan i'w chadw'n ddiogel o dan glo!) Alys Thomas
 |