| Ar noson braf ym mis Mehefin, beth well na chael ymlacio yn yr ardd gyda barbeciw a photel o win, meddech chi. Ond, gyda'r degawd ers sefydlu'r papur bro yn haeddu'i ddathlu, gwledd gerddorol oedd ar gael yn Theatr Brycheiniog ar nos Sadwrn, Mehefin 18fed, pan ddaeth dau gôr o leisiau ifanc ac unawdydd byd-enwog i'n diddanu. Bu 'Côrdydd', un o'r corau poblogaidd sy'n ffynnu yn y brifddinas y dyddiau hyn, yn llwyddiannus mewn nifer o gystadleuthau cenedlaethol, a hawdd deall hynny wrth wrando ar eu canu disgybledig. Er mai dim ond hanner aelodau'r côr oedd yn gallu bod yn bresennol ar y noson - a'u dewis o raglen wedi'i gyfyngu o'r herwydd - yn ddi-os mae eu harweinyddes, Sioned James, yn feistres ar ei chrefft. Yn ôl ei chyfaddefiad ei hun, mae Sioned yn hoff iawn o waith y cyfansoddwr John Rutter, a chyda un o'r aelodau wedi cyfieithu a gosod y geiriau Cymraeg ar y nodau yn gelfydd, roedd cerddoriaeth syml ond effeithiol Rutter ymysg eu rhaglen, yn addas iawn i'r côr hwn. Cafwyd gwaith clodwiw gan gyfeilydd y côr, Lowri Evans, a hi hefyd fu'n cyfeilio i unawdydd y noson sef Iona Jones. Pleser pur oedd clywed llais soprano cyfoethog Iona yn cyflwyno rhaglen amrywiol a difyr - arias o operau, clasuron Cymreig ac alawon gwerin, a chloi'r noson drwy ymuno â 'Côrdydd' i ganu "Hafan Gobaith". Mae gobaith eto i ganu corawl yn yr ardal hon gyda sefydlu Côr Plant De Powys, a thipyn o brofiad oedd i'r côr ifanc hwn gael canu ar lwyfan Theatr Brycheiniog! Ugain o blant o ysgolion cynradd yr ardal, dan arweiniad Delyth Taylor a'u cyfeilydd Elin Non Ennys, yn llawn brwdfrydedd, a'u mwynhad yn amlwg wrth ganu'r darn hwyliog "Parti'r Ysbrydion" gan Huw Chiswell. Un arall o'u caneuon oedd "Thank you for the music", a hoffai aelodau Bwrdd Golygyddol Y Fan a'r Lle ddiolch o galon i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd at y noson ddiddan hon.
 |