BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Fan a'r Lle
Richard LynchBywyd yr Actor
Gorffennaf 2008
Yr actor Richard Lynch o Aberhonddu yn sôn am ei daith i'r Himalaya.

"Ar yr ail o Ionawr,(gyda dathliadau'r flwyddyn newydd yn dal yn atseinio yn fy mhen!( wnes i hedfan o Lundain i New Delhi i ddechrau'r antur fawr. Dinas swnllyd, brwnt ac anhrefnus yw prifddinas yr India ac roeddwn i'n aros yn yr ardal fwya buyrlymus ohonynt i gyd - Parc Ganj.

Bendith iedd cael ei gadael hi ychydig ddyddiau yn ddiweddarach. Roedd y daith awyren dros yr Himalaya o New Delhi yn y Gorllewin i Bagdogra yn y Dwyrain yn anhygoel.

Mynyddoedd y mae ond eu henwau yn codi ias:Makalu, Annapurna, Everest, Nuptse, ac yn y dwyrain pell Kanchenjunga.

Wedyn mewn a ni i'r 4x4 i deithio trwy ganol Sikkim, heibio trefi a phrntrefi 'da enwau rhyfedd estron:gangtok,Chyngthang, Lachen.

Troeon ar ôl troeon a phob milltir yn dilyn afon yn uwch ac yn uwch i fyny Cwm Yumthung a dechrau'r trek go iawn - trek o ddeg diwrnod.

Gyda'r galon yn cynhyrfu wrth imi fgfarwelio â'r 4x4 dechreuon ni ddringo i fyny'r cwm serth tua'r 'pass' o 5,000m - bach yn uwch na Phenyfan, feddyliais i!

One er i'r tymheredd blymio i -7 Celsiws yn ystod y dydd a -16 Celsiws yn ystod y nos, ac er bod aer yn fain ac yn tynhau pob trodfedd i fyny'r cwm, roedd bod ar y mynydd dan y fath amgylchiadau yn brofiad ysgytwol.

Mae maint ac egni'r mynyddoedd yn ddiderfyn i bob gorwel - yn ysbrydoli dyn ac yn iasol i'w deimlo, Mae 'na lu o atgofion sy'n dod a gwên i ngwyneb i wrth feddwl yn ôl: ymweld â gwyl ddawns draddodiadol ym mynachlog Tibetaidd yn Lachen, a darganfod mai fi oedd yr unig wyneb estron yno; cael gwahoddiad i dy hen fenyw ynghanol unlle i flasu'r cwrw lleol am naw y bore!

Bwyta fy Snickers ola' a brynwyd yn y Co-op yn Aberhonddu ar ben 'pass' o 5,000m, neu yfed tê yn Darjeeling wrth imi orffwys wedi'r daith ymdrechgar.

Ond yr hyn rwy'n ei gofio fwyaf? Natur gyfeillgar urddasol a theg y bobl. A'r mynyddoedd eu hunain, cewri yn edrych dros y bobl a'u teyrnas dangnefeddus.Mae'n rhywle sy'n dwyn i gof eiriau'r bardd enwog Shelley:
'Far, far above, piercing the infinite sky
Mont Blanc appears - still snowy and serene
Its subject mountains their unearthly forms
Pile around it, ice and rock, broad vales between
Of frozen floods, unfathomable deeps
Blue as the overhanging heaven..."

Dwi'n siwr ga i gyfle i hala Gary Monk bant am wyliau arall yn y dyfodol, a phwy a wyr falle bod yna bennod arall yn fy mherthynas i 'da'r Himalaya. Nid dyma'r diwedd yn sicr - ac nid Sikkim oedd diwedd fy nhaith i'r India,

Ces i gyfle i ymweld â Pharc Cenedlaethol Kanha, yr ysbrydoliaeth a ddaeth â Jungle Book i'r byd. Ond stori arall yw stori'e teigr weles i..."


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy