Ar ddiwedd 2008, bu Côr Meibion Llanfair ym Muallt yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeugain oed. Sefydlwyd y côr yn 1968 gyda 17 o aelodau ac erbyn hyn, mae'r aelodaeth wedi tyfu i 65. Ers ei sefydlu dim and dau arweinydd fu gan y côr, sef y diweddar Jack Francis a'r arweinydd presennol Luned Jones sydd wedi bod wrth y llyw ers 1985. Hefyd, tair cyfeilyddes fu gan y côr, Ceinwen Jones, Luned Jones ac Ann Bufton. Cynhaliwyd Cinio'r Dathlu ar ddiwedd mis Tachwedd a chafwyd noson ddifyr yn hel
atgofion ac yn bodio drwy hen raglenni a lluniau. Un o uchafbwyntiau blwyddyn y dathlu oedd ymweliad y côr a Llundain i gymryd rhan yn y Cyngerdd Mil o Leisiau yn yr Albert Hall. Llanwyd pedwar bws o gantorion a chefnogwyr i gymryd rhan ac i wrando ar fil o leisiau o bedwar ban byd ynghyd â Band y Cory a'r unawdwyr Gwyn Hughes Jones a Gwawr Edwards. Cafwyd penwythnos cofiadwy a dychwelodd pawb a'u hysbryd yn llawn a'u pocedi'n wag!
 |