BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Fan a'r Lle
Balŵn aerTaith i'r Aifft
Chwefror 2010
Marian Lewis o Aberhonddu sy'n adrodd hanes daith balŵn yn yr Aifft.

Roedd hi'n bedwar o'r gloch ar fore Mercher, a roedden ni ar fin cychwyn ar un o anturiaethau mwyaf ein bywyd !

Am banner awr wedi pedwar, gwelwyd ni'n eistedd mewn bâd fechan, yn bwyta teisen ac yfed te wrth groesi'r Afon Neil i'r West Bank.

Yna, yn mynd ar daith fer tua `maes awyr' bychan ble y gwelen ni, drwy'r tywyllwch, nifer o ddynion yn eistedd mewn grwpiau o `gylch basgedi, dros y cae, a deuai synau od ohonynt !

Gwelwyd mai sŵn aer poeth yn cael ei chwythu i falwnau gwag oedd yma !

Yn fuan, fe welen ni'r rhain yn codi'n fawreddog i'r awyr gan gymryd ffurf a lliw fel yr oedd y wawr yn torri.

Yna'r dynion yn tynnu ac yn dal y rhaffau mawr yn dynn! ... Pan welai'r Capten fod ein balŵn ni yn berffaith barod, dyna bymtheg o deithwyr dewr ac amheus yn camu i mewn i'r fasged oedd wedi ei rhannu i bedair rhan, i wneud yn siwr fod y llwyth corfforol yn gytbwys.

Pan oedd pobun yn barod, cafwyd parablu cynhyrfus tra bo'r rhaffau'n cael eu tynnu.

Yna'r fflamau mawrion, cyn i'r balwn gael ei rhyddhau a ninnau'n codi'n urddasol i'r awyr, ar doriad y wawr.

Fel yr oedd golau'r dydd yn cryfhau, gallem weld caeau gyda phob math o gynnyrch ynddynt.

Hefyd, ffurfiau o dai mewn pentrefi islaw. Roedd ceiliog yn camu mewn rhyw fferm oddi tanom ac fe ddeffrodd hwnnw bob ceiliog arall ar hyd y daith.

Yn fuan, roedden ni'n agosau at Ddyffryn y Brenhinoedd (Valley of Kings).

Gallem ei weld yn ei holl ogoniant fel yr oedd yr haul yn codi yn y dwyrain.

Buom yn gwylio pobl yn gwneud eu dyletswyddau amrywiol, a hynny ymhell oddi tanom.

Pan ddaeth Dyffryn y Brenhinesau i'r golwg, roedd pawb ohonom yn synnu fod y Beddau yma wedi cael eu darganfod o gwbl.

Maen nhw mor guddiedig yn erbyn ochrau'r mynyddoedd.

Fe gredir fod rhagor o feddau i'w darganfod eto ! ... Yn llawer rhy fuan, roedd ein taith yn dod i ben, a dyma ddechrau disgyn tua Dyffryn yr Afon Neil.

Roedd y Capten yn chwilio am fan addas i lanio ar y ddaear unwaith eto.

Daeth gorchvnvn i ni ffurfio ystum glanio gan ddal gafael yn rhaffau'r fasged, a mynd ar ein cwrcwd, ar y llawr.

Wedi sawl sbonc, cam a naid, daeth taith y fasged i ben, a hynny ar gwr cae o india-corn tal.

Yn sydyn, daeth ffermwr gwyllt ei dymer o rywle gan ein cyhuddo o geisio dinistrio ei gnwd llewyrchus !

:

Lan a ni i'r awyr eto, am yr ail waith, a'r Capten a'r criw yn chwilio am le mwy derbyniol.

Daeth mwy o sboncio, camu, a neidio, cyn dod i derfyn, uwchlaw camlas ddyfrio tir. Anaddas!

Am y trydydd tro ac ar ô1 Ilawer o wynt poeth, bu'r merched o Gymru yn ffodus i lanio'n ddiogel ar fin ffordd sych a llychlyd.

Roedd pawb yn ddiolchgar ac yn hapus dros ben.... Mewn dim amser, roedd y glanio wedi creu diddordeb ymysg y pentrefwyr gerllaw, a daethant yn llu, i weld pymtheg o bobl yn ceisio dringo allan o'r fasged !

Erbyn hyn, roedd ein cerbyd ni wedi cyrraedd a'r dynion prysur o'n cwmpas yn tynnu aer o'r balwn a'i rhoi hi, a'r fasged, yng nghefn lori.

Yna, clywsom fod seremoni wobrwyo ar fin dechrau ! Cafodd pob un ohonom dystysgrif a chrys T ! - a dechreuodd y ddawns wobrwyo - i gyfeiliant drymiau swnllyd !

(Roedd yr antur drosodd, a ffwrdd a ni ar draws yr Afon Neil eto, ac i'r gwesty. Yno, roedd brecwast diweddar, a derbyniol iawn yn disgwyl amdanon ni. Fe gawson ni brofiad cofiadwy y bore hwnnw.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy