Ers blynyddoedd mae dolen gref wedi ei ffurfio rhwng Aberhonddu a'i gefeilldref yn Llydaw, sef Gouesnou. Bu mynych ymweliadau rhwng y ddwy dref a sefydlwyd cyfeillgarwch clos rhwng llawer o'r trigolion.
Eleni, penderfynodd trigolion Gouesnou i gynnal wythnos Gymraeg yn eu tref, i ddathlu'r cwlwm sy'n bodoli rhwng Cymru a Llydaw. A gyda chymorth pwyllgor gefeillio Aberhonddu, roedd yr hyn a drefnwyd yn syfrdanol.
Ar y dydd Llun daeth nifer o ysgolion lleol i ymweld â'r arddangosfa Gymraeg yn y ganolfan gymunedol. Roedd ysgolion cylch Aberhonddu wedi bod yn gwneud posteri, lluniau a modelau ar gyfer yr arddangosfa, a dangosodd plant Gouesnou ddiddordeb mawr ynddynt. Roedd llwyau caru, ffyn traddodiadol ynghyd a brodwaith gwych Marcelle Davies hefyd yn cael eu harddangos. Nos Lun rhoddwyd darlith ar y cysylltiadau rhwng Llydaw a Chymru gan Jean le Duc o Adran Geltaidd Prifysgol Brest.
Ar y nos Fawrth cyrhaeddodd y bws o Aberhonddu, gyda dros ddeugain o bobl, yn cynnwys nifer o artistiaid a chrefftwyr lleol, a'r grwp dawnsio gwerin "Tipyn o Bopeth". O hynny ymlaen bu'r wythnos yn llawn berw, gyda'r dawnswyr yn difyrru pobl ar y strydoedd, mewn ysgolion ac mewn cartref hen bobl. Bu'r crefftwyr a'r artistiaid hefyd yn cynnal arddangosfeydd.
Ar y dydd Mercher trefnwyd taith i ni drwy rai o erddi hardd Brest, ac yn y nos dangoswyd y ffilm "How Green Was My Valley". Cafwyd ymateb gwych i'r ffilm a llwyddodd Ron Rowsell i ateb y cwestiynau niferus am y gweithfeydd glo gydag arddeliad, gan iddo gael ei ddwyn i fyny yn Nhreherbert pan oedd y glofeydd yn eu bri.
Ar y dydd Iau cafwyd taith i Argol, sef amgueddfa sy'n dangos
crefftwyr traddodiadol Llydaw wrth eu gwaith, ac roeddem yn synnu a rhyfeddu at ddyfeisgarwch y werin bobl 'slawer dydd. Roedd Côr Meibion Aberhonddu wedi cyrraedd erbyn hyn, ac ar y nos Iau cafwyd cyngerdd gwych ganddynt hwy a Chôr
Gouesnou yn eglwys hyfryd y dref. Roedd y lle'n llawn a chanodd y corau gydag angerdd a brwdfrydedd.
Ar y dydd Gwener trefnwyd taith i Quimper a buom yn ymweld â chrochendy enwog a ffatri wneud bisgedi, cacennau a diodydd. Roedd blas arbennig ar y samplau a baratowyd ar ein cyfer, a chawsom ddau lond bag anferth o ddanteithion i fynd gyda ni.
Noson o ddawnsio oedd hi nos Wener ac roedd y neuadd yn orlawn wrth i bawb geisio dygymod â rhai o ddawnsiau gwerin Llydaw a Chymru.
I gloi'r wythnos ar y dydd Sadwrn, cynhaliwyd helfa drysor a ras hwyaid. Roedd ras hwyaid yn rhywbeth newydd i'r Llydawyr a chredai'r rhan fwyaf ohonynt fod dros fil o hwyaid byw o Gymru yn mynd i gael eu gollwng yn rhydd. O ganlyniad, daeth tyrfa fawr ynghyd i weld cannoedd o hwyaid bach plastig yn arnofio i lawr y nant mewn parc yn Gouesnou!
I gloi'r wythnos cynhaliwyd bwffe enfawr yn y neuadd gymunedol, gyda grwp o gerddorion lleol yn ein diddanu. Roedd y byrddau'n drwmlwythog a'r gwin yn llifo a chafwyd noson gofiadwy iawn. Mae croeso a lletygarwch y Llydawyr yn rhagorol a chawsom amser bendigedig yn eu cwmni.
Roeddem yn falch fod yr wythnos wedi bod mor llwyddiannus iddynt gan fod llawer o waith trefnu wedi ei wneud yn Aberhonddu a Gouesnou. Ym mis Awst bwriadwn fynd â chriw ohonynt i gerdded yn Eryri am rai dyddiau.