Roedd aelodau'r clybiau ffermwyr ifainc wedi cymryd than mewn Gŵyl Ddrama Gymraeg Cymru am y tro cyntaf. Ysgrifennwyd Golau'r Epynt gan Euros Lewis a Beti Davies yn arbennig er mwyn inni berfformio'r ddrama ar lwyfan y gystadleuaeth hon. Mae'r ddrama yn mynd a'r gynulleidfa yn ô1 mewn amser pan mae dyddiadur un cymeriad, Gwen, yn cael ei ddarganfod. Cynhyrchydd y ddrama oedd Mrs Eifiona Roberts, y gyfarwyddwraig gerddorol oedd Mrs Lynne Griffin a'r cynhyrchydd cynorthwyol oedd Mrs Menna Davies. Roedd 27 aelod yn y cast a oedd yn amrywio o blant 10 mlwydd oed i bobl 26 mlwydd oed. Roedd llawer o'r aelodau hyn yn perthyn i bobl a gafodd eu symud i ffwrdd o gymdogaeth Yr Epynt, a hefyd roedd disgyblion Ysgol Uwchradd Aberhonddu yn cynrychioli'r sir. Roedd pawb wedi rhoi cymaint o ymdrech, ymarfer a chydweithrediad er mwyn cynhyrchu drama lwyddiannus. Bwriad y ddrama oedd cadw atgofion Yr Epynt yn fyw ac adrodd yr effaith a gafodd yr Ail Ryfel Byd ar iaith, diwylliant a threftadaeth y gymuned. Llwyddodd y cast wneud hyn yn dda iawn pan deithion nhw i Aberdyfi ar ddydd Sadwrn 27ain o Chwefror i gystadlu yn yr Wyl Ddrama Gymraeg. Enillon nhw'r gystadleuaeth! Mae hyn yn llwyddiant arbennig o ystyried mai dyma'r tro cyntaf i Frycheiniog gystadlu trwy'r iaith Gymraeg. Yn y llun ar y chwith gwelir Eifiona Roberts, y cynhyrchydd, ac Euros Lewis, awdur, yn arddangos y ddau dlws a enillwyd - un am y ddrama ddaeth i'r brig a'r llall am y llwyfanu gorau yn y gystadleuaeth yn Aberdyfi. Cafodd Louise Williams ac Elin Havard eu henwebu am wobr yr actores orau.
 |