Bardd metaffisegol mawr
Un o feirdd Saesneg pwysicaf yr ail ganrif ar bymtheg oedd Henry Vaughan, ac roedd yn Gymro Cymraeg.Er bod rhai beirniaid yn barnu ei fod yn perthyn i'r traddodiad Saesneg yn unig, mae ei gerddi yn cynnwys sawl cyfeiriad at ei fro enedigol yn Sir Frycheiniog, a galwai ei hun yn 'Silurist', sef un a berthynai i lwyth Brythonig y Silwriaid a drigai'n ne-ddwyrain ein gwlad.
Ganwyd Henry Vaughan ym 1621 yn y Dre-newydd, Sgethrog, yn Nyffryn Wysg, yn ŵyr i William Vaughan o Dretŵr, Sir Frycheiniog; roedd Thomas Vaughan, yr alcemydd a bardd, yn efaill iddo.
Ym 1638 aeth y ddau frawd i Goleg Iesu, Rhydychen, ond gadawodd Henry heb gymryd gradd a mynd i Lundain i astudio'r Gyfraith. Yn ystod y Rhyfeloedd Cartref ochrodd y ddau gyda'r Brenin.
Profiad crefyddol
Ymddangosodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Poems, lle mynegodd ei ddaliadau brenhinol eithafol, ym 1646.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach cafodd y bardd brofiad crefyddol dwys a hwn oedd wrth wraidd ei gyfrol Silex Scintillans (1650). Yn ei gyfrol Olor Iscanus ('Alarch Wysg', 1651) mae'n dwyn i gof ei gyfeillion; mae'r gerdd 'To the River Isca' yn rhoi'r teitl i'r gyfrol.
Mae Thalia Redivivia (1678) yn cynnwys cerddi a gyfansoddwyd rhyw ddeng mlynedd ynghynt.
Rhwng 1650 a 1655 ymroddai Vaughan ei hun i ryddiaith a chyfieithu o'r Groeg, Lladin a Sbaeneg, cyn symud ymlaen at feddygaeth.
Ymddangosodd ei Hermetical Physick ym 1655, a dichon yn yr un flwyddyn dechreuodd weithio fel meddyg, er nad oes sicrwydd bod cymwysterau ganddo.
Bywyd helbulus, beddargraff edifeiriol
Roedd Henry Vaughan yn ŵr penderfynol a ymosodai'n chwerw ar ei lu o elynion crefyddol a gwleidyddol; cymharai hwy a'r Iddewon a groeshoeliodd yr Iesu.
Aeth i'r gyfraith fwy nag unwaith, hyd yn oed yn erbyn ei blant ei hun. Oherwydd yr helbul oedd wedi bod rhyngddynt, mae'n debyg, dewisodd gael ei gladdu tu allan i eglwys Llansantffraid, gan ddewis hefyd y geiriau sydd i'w gweld ar ei garreg fedd: 'Servus Inutilus: Peccator Maximus: Hic Iaceo: Gloria Miserere'.
Uwchben ei fedd ysgrifennodd y bardd o Sais Siegfried Sassoon ei gerdd sy'n cloi gyda'r geiriau 'And here stand I, a suppliant at the door'.
Roedd Henry Vaughan yn un o'r beirdd metaffisegol mawr. Mae gan ei gerddi rhythm a churiadau tu mewn i'r mydr traddodiadol sy'n adleisio'r llais llafar.
Yn rhai ohonynt gwelir yr arfer o bentyrru ymadroddion disgrifiadol byr sy'n deillio o'r dechneg a elwir yn ddyfalu yn y Gymraeg.
Ei gerddi gorau, yn ddi-os, yw'r rhai sydd yn adlewyrchu ei ffydd Gristnogol, ac maent yn pefrio ag arabedd a delweddau ac ymadroddion lliwgar dros ben.
Ymhlith ei gerddi enwocaf gellir enwi 'They are all gone into the world of light!' a 'Peace', sy'n agor gyda'r geiriau 'My soul, there is a country / Far beyond the stars'.
Bu farw'r bardd ym 1695.
Meic Stephens