BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Ysgub
CoffebPerllan Eglwys Penybontfawr
Mehefin 2010
Hanes plannu perllan yn Eglwys Penybontfawr gan ddisgyblion Ysgol Pennant.

Maen nhw'n dweud bod coed derw mawr yn tyfu o fes bach, ac er nad oedd y fenter hon yn ymwneud â choed derw, roedd yn enghraifft dda o rywun â syniad, a bod rhywun arall wedi ychwanegu ato i'w wneud yn syniad hyn yn oed gwell.

I ddechrau, awgrymodd rhywun yng Nghyngor yr Eglwys ein bod yn plannu ychydig o goed yn y rhan o'r Fynwent nad yw'n Gael ei defnyddio, hyd yma, i'w wneud yn Ile mwy deniadol i bobl eistedd wrth ymweld â beddau.

Dywedodd rhywun arall 'Beth am ofyn i'r ysgol a hoffent gynnwys y plant?' Ymateb yr ysgol oedd 'Hoffem plis, bydd yn gweddu'n dda i'n prosiect ôl troed carbon'.

Yna cynigwyd y syniad y gallai rhai o'r coed fod yn goed ffrwythau y gallai'r ysgol eu defnyddio ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.

Ac felly cychwynnodd syniad Berllan yr Eglwys.

Gwirfoddolodd nifer o aelodau a chyfeillion yr Eglwys i brynu coed, mae Sefydliad y Merched wedi prynu un arall, a phrynwyd y gweddill gan ddefnyddio arian yr Eglwys.

Ar ddyd Gwener 23ain Ebrill, cychwynnodd disgyblion o flwyddyn 4 a 5 yn Ysgol Pennant, Penybontfawr ynghyd â'u Pennaett Mrs Annwen Watkins waith gyda rhawiau a chaniau dyfrio a chyfarfod ag aelodau'r Eglwys a Sefydliad y Merched (ac un gŵr â chaib - defnyddiol iawn) i blannu 2 bren afal 'Bramley' ac afal bwyta 'Ynys Enlli', pren gellyg `Conference', pren Eirin Du, pren afal sur bach, a Chriafolen.

Rydym yn gobeithio y byddant i gyd yn dwyn ffrwyth ymhen 18 mis, ynghyd a draenen binc, a bedwen a phren ceirios sy'n blodeuo fel coed addurniadol.

Roedd yn waith anodd oherwydd nid oedd y pridd wedi cael ei aflonyddu ers Ilawer o flynyddoedd ond cymerodd bawl rhan a mwynhau eu hunain.

Mae Ysgrifennydd yr Eglwys wedi gwneud plant i nodi'r digwyddiad a'r cwbl y mae angen i ni wneud nawr yw aros i natur wneud y gweddill.

Diolch yn fawr i Deborah sydd â stondin farchnad yn Llanfyllin ac aelod o staff benywaidd yng Nghanolfar Arddio'r Dderwen, mae'r ddau ohonynt wedi bod yn gynorthwyol a brwdfrydig iawn o ran y prosiect ac rydym yn edrych ymlaen at Wanwyn flwyddyn nesaf pan ddylai'r coed fod yn eu blodau gan greu ardal atyniadol.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy