"Nid yw llongyfarch eich hun yn beth da yn ôl y Sais, ond mae yna eithriad i bob rheol siŵr o fod. Ond llongyfarch ein hunain yw hyn am ein cydweithrediad a'n consyrn dros ein treftadaeth a'n diwylliant a'r iaith Gymraeg, yn enwedig mewn ardal fel hon ar y ffin, lle mae sefyll yn y bwlch yn holl bwysig. Cerddwn ymlaen." R O Hughes "Llongyfarchiadau a diolch i'r Ysgub. I'r gŵr doeth a'i hanogodd; i'r bwrdd golygyddol a'i lansiodd; i'r swyddogion a'r trefnwyr a sicrhaodd iddo sylfaen ymarferol; teipyddion a ddefnyddiodd y dechnoleg diweddaraf i roi iddo ei wedd broffesiynol ac i'r gohebwyr a ddefnyddiodd eu dawn i gyfrannu'n ddiddorol newyddion eu ardaloedd nes ein hymuno â'n gilydd, nid yn unig yn Nyffrynnoedd Ceiriog, Tanat, Cain ac Efyrnwy a thros y ffin yn Lloegr, ond o Golwyn i Guadeloupe. Fel y gallwn ninnau ymhyfrydu yn ein cyfraniad tuag at barhad y Gymraeg." J G Jones "Wele garreg filltir arall yn cael ei chyrraedd a'i dathlu - sef cyhoeddi tri chanfed rhifyn o'n papur bro. Llongyfarchiadau yn wir i bowb a fu'n ymhel â'r Ysgub yn ystod y cyfnod hwn. Ond wrth ddathlu gwychder y gorffennol, rhaid ystyried a fydd ymdrech ein presennol yn sicrhau dyfodol yr un mor ddisglair ac yn diogelu cant, dau gan neu dri chan rhifyn arall. Mi fu'r Ysgub yn bwysig, mae'n bwysig heddiw; mi fydd yn bwysicach fyth wrth i ni frwydro i sicrhau cymunedau a broydd lie mae'r Gymraeg yn gyfrwng naturiol." E Llwyd Jones "Anodd credu mai hwn yw'r trydydd ganfed rhifyn o'r Ysgub. Cofiaf gyfarfod yn yr Ysgol Uwchradd ar fore Sadwrn i ddarllen, cywiro a gosod y proflenni; ac y mae'r criw golygyddol yn dal wrth y llyw heddiw ar wahan i ddau. Ymddeolodd un a gwnaeth y llall i'w wraig gymryd el le. Dyna beth yw ffyddlondeb. Nid yn unig yw'r golygyddion yn ffyddlon, ond nid yw'r colofnwyr wedi newid fawr, a hwy wrth gwrs sy'n casglu'r cribinion. Hebddynt be wnaem? Diolch o galon i chwi am eich ffyddiondeb. Yn olaf ond nid y lleiaf, ein carreg sylfaen, sef ein hysgrifenyddion gweithgar, bob amser yn ofalus a pharod bod yr Ysgub yn dod allan yn brydion. Ysgub lwcus dywedaf. Beth am y dyfodol? Cofiwch mai dyma ffynhonnell hanes, a bydd eraill yn chwilio'r tudalennau am ddeunydd lawer o bethau - cyrsiau M.A., traethodau mewn Eisteddfod neu hanes teulu arbennig. Dymunaf ddyfodol llewyrchus i'm papur bro a rhwydd hynt iddo." L M Jones "Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd llawer mwy o Gymru uniaith Cymraeg nag sydd heddiw, a chyn bod sôn am na radio na theledu, cyhoeddwyd ugeiniau lawer o gylchgronau. Marw'n gynnar, fodd bynnag, fu hanes llawer iawn ohonyn nhw. A Chymry Cymraeg bellach i gyd yn ddwyieithog, a dylanwad y cyfryngau torfol Seisnig mor bellgyrhaeddol, mae'n syndod bod papur fel hwn wedi para gyhyd. Siawns felly bod gennym ni hawl i longyfarch." Parch G Morgan
 |