Roedd y darnau i gyd wedi disgyn i'w lle ar gyfer yr ŵyl fawr yma ac fel dwedodd Rhiannon Rowlands Tregarth, Llywydd y Dydd ar y Sadwrn dim ond yr eisin ar y gacen a gafwyd ar y ddau ddiwrnod, a bu'r gymysgedd yn cael ei baratoi dros y ddwy flynedd diwethaf. Fe lwyddwyd hyd yn oed i drefnu tywydd bendigedig ar gyfer y cyhoeddi a'r eisteddfod ei hun, heb sôn am yr adnoddau technegol newydd yn Theatr Llwyn, yn y cyntedd ac yn y neuadd fwyta, a'r holl ystafelloedd ychwanegol oedd eu hangen. Mae'n hawdd i unrhyw un glochdar ar ei domen ei hun, ond yn ôl llawer dyma'n sicr un o'r Eisteddfodau Powys gorau erioed, cymaint oedd nifer yn cystadlu, a safon y cystadleuwyr a'r perfformiadau - gwych, ardderchog, bendigedig, graenus. Roedd canmoliaeth gan y beirniaid ymhob adran o'r Eisteddfod ac roedd Theatr Llwyn dan ei sang ymhob un sesiwn, heb sôn am y nifer oedd yn gwylio drwy'r system deledu fewnol oedd ar gael yn yr ysgol. Rhaid llongyfarch y Pwyllgor Gwaith dan arweiniad Tegwyn Jones Pontrobert a'r holl is-bwyllgorau, ac yn arbennig y nifer o bobl ifanc oedd ynghlwm â'r gwaith, a phob clod i'r ysgrifenyddion y Parch Gwyndaf Richards, Sioned Best, a'r Trysorydd Gwyn Jackson Jones. Talwyd diolchiadau cynhwysfawr i bawb a gyfrannodd tuag at lwyddiant ysgubol yr Eisteddfod hon, (y degfed yn Llanfyllin sydd yn eithaf agos at ganolbwynt daearyddol yr hen Bowys) gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith Tegwyn Jones.
 |