Gyda balchder gallwn adrodd, mwy na thebyg, mai'r groesffordd ym mhentref Llanymynech, sydd ar y ffin ac yn rhan o'r ffin, yw'r groesffordd fwyaf Cymreig yng Nghymru. Fe fydd Beuno Sant, a gafodd gymaint o fraw o glywed yr iaith fain yn yr ardal yn 610 AC, with ei fodd. Mae Cyngor Sir Powys newydd osod arwyddion ffordd dwyieithog yno a'r hyn sy'n braf yw fod y Gymraeg yn dod gyntaf. Ond mwy sylweddol na hynny, ai dyma'r tro cyntaf i enw tref yn Lloegr fodoli ar arwyddion ffordd yn ddwyieithog? Gweler y llun. Trueni na chynhwyswyd yr enw Cymraeg am Knockin oherwydd gair Cymraeg yw'r tarddiad. Cnycin yw'r enw Cymraeg, sef bryn bach ar wastatir, ar hyn sydd mor ddiddorol yw fod y brodorion cynhenid Saesneg eu hiaith yn dal i ynganu'r enw fel tasent yn dweud Cnycin yn Gymraeg ac nid yn ôl y sillafiad Saesneg. Mae'n rhaid canmol y Cyngor hefyd am sillafu Llansanffraid yn gywir ar yr arwyddion. Yn hanesyddol, yn ieithyddol ac yn ramadegol, nid oes T yn Llansanffraid, ac nid yw'r Cymry cynhenid yn ynganu'r 'T' with ddweud yr enw. Pwy roddodd 'T' yn Llansanffraid felly? Mae'n debyg mae ein cymdogion Saesneg wnaeth, gan feddwl ein bod yn anllythrennog, ac o ddeall mai 'Church of St Ffraid' oedd ystyr yr enw, aeth y mapwyr i ddefnyddio 'Llansaintffraid'.
Yn ystod y ganrif ddiwethaf collwyd yr 'i' oherwydd ei fod yn amlwg yn ffurf Saesneg ac o'r diwedd dylem wared ar 'T' ac adennill y ffurf Gymraeg gywir o beidio gynnwys 'T' yn y modd y nodwyd yr enw yn ysgrifenedig gyntaf yn 1254, pan oedd tywysogion Cymru yn rheoli. Mae'r diolch ar ganmoliaeth felly i'r Cyngor Sir am ddangos y ffordd!
 |