BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Ysgub
Aelodau cast y sioeJoseff - Y Sioe Gerdd Wych
Rhagfyr 2008
Adolygiad Eleri Llwyd Jones o Joseff a'i Gôt Amryliw gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd Llanfyllin.

Roedd Theatr Llwyn dan ei sang am dair noson gyffrous ac un prynhawn, pan oedd disgyblion yr Ysgol Uwchradd yn perfformio'r sioe enwog Joseff a'i Gôt Amryliw.

Roedd tua naw deg o ddisgyblion yn cymryd rhan, rhwng y prif actorion, y côr a'r band a nodwedd braf lawn oedd gweld cynifer o aelodau o'r staff yn cymryd rhan yn y band yn ogystal ag yn helpu yng nghefn y Ilwyfan.

Wel, sut sioe oedd hi? Roedd hi'n hyfryd; yn gynnes, yn lliwgar ac yn gerddorol. Rhyfeddai bawb at yr holl dalent yn yr ysgol. "Toes na lawer o gantorion da yna!" oedd y syiw glywais i dro ar ôl tro.

Cyflwynodd y Ilefarwyr amrywiol a del y stori'n effeithiol iawn a diddannodd y brodyr ni'n wych gyda'u hactio penigamp. Edrychai'r cast yn lliwgar yn eu crysau-t arbennig ac roedd y gôt amryliw yn gampwaith - diolch i waith caled Sarah Owen. Gwych hefyd oedd yr arlunwaith anhygoel o gwmpas y llwyfan - diolch i'r teulu Batoctoy am eu gwaith cywrain.

Perfformiodd pawb yn arbennig o dda ond, yn sicr, roedd Ilwyddiant y sioe yn dibynnu i raddau helaeth ar berfformiad y prif gymeriad sef Joseff. Richard Lewis, Plas Elltyn, oedd yn wynebu'r her ac fe gyflawnodd y dasg yn eithriadol o wych. Roedd ei lais yn hyfryd, ei actio'n argyhoeddi a'i fwynhad amlwg o fod yno, ei hyder a'i gyfforddusrwydd ar y Ilwyfan, yn peri i bawb yn y gynulleidfa ymlacio a mwynhau. Da iawn ti Richard. Ar y Nos lau cyflwynwyd anrheg i Mrs Jean Lewis am ei blynyddoedd hir o wasanaeth i'r ysgol fel Llywodraethwraig a dwi'n siwr ei bod yn hynod o faich o'i hwyrion i gyd a oedd yn cymryd rhan.

Wrth gwrs dydy sioe fel hon ddim y digwydd heb fod rhywun yn cynllunio pharatoi, a'r ddau sy'n haeddu'r clod a' canmoliaeth ydy Mrs Molly Harrison (yr athrawes ddrama) a Mr Huw Davies (yr athro cerdd). Diolch yn fawr iddynt am roi'r cyfle i'r disgyblion gael y fath brofiad, ac i'r gymdeithas (yn rhieni a ffrindiau) gael mwynhau talent yr ieuenctid, ac fel y dywedodd y Prifathro Mr Carl Mincher, roedd y nosweithiau yn rhai i'r gymuned gyfan.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy